Rhan o erthygl The Times am y strategaeth iaith, (Llun: O gyfrif Twitter Kate Crockett)
Mae papur newydd y Times wedi cywiro gwallau sillafu mewn erthygl am y Gymraeg ar ôl i’r stori gael sylw negyddol heddiw.

Yn ei herthygl yn y papur ac ar y we am y strategaeth iaith, fe gyfeiriodd y gohebydd addysg Nicola Woolcock at yr ymadroddion ‘bora da’ a ‘yachi da’.

Roedd y stori wreiddiol yn dwyn y pennawd ‘Wales wants to hear more Welsh. There’s nice, isn’t it?’

Ond mae’r ddolen i’r stori ar y we yn dwyn y pennawd gwreiddiol o hyd: https://www.thetimes.co.uk/article/wales-wants-to-hear-more-welsh-there-s-nice-isn-t-it-5gkkkxg8m

Cafodd y pennawd ei newid ar y we yn ddiweddarach i ‘How Wales will get more people speaking Welsh’.

Mae’r erthygl hefyd yn nodi mai polisi’r Cynulliad yw sicrhau bod mwy o bobol yn gallu siarad Cymraeg – polisi Llywodraeth Cymru yw hwn, mewn gwirionedd.

Ymateb

Tynnodd y newyddiadurwr David Cornock sylw at y gwallau ar wefan gymdeithasol Twitter.

Ymatebodd y golygydd materion cymdeithasol, Greg Hurst drwy ddweud mai “camgymeriad gonest” oedd yn yr erthygl.

Ychwanegodd fod “camgymeriadau’n digwydd”, gan ofyn “onid yw eu cydnabod nhw a’u cywiro nhw’n bwysicach?”

Ychwanegodd Nicola Woolcook fod y gwallau’n “anffodus”.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan y papur newydd.