Mae mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru i weld twf addysg Gymraeg dros y 30 mlynedd nesaf.

Fe fyddai cael 40% o ddisgyblion Cymru mewn addysg Gymraeg erbyn 2050 yn gam sylweddol ymlaen ac yn gyfraniad hollbwysig er mwyn cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr erbyn 2050. meddai Lynne Davies, cadeirydd RhAG.

“Mae’r mudiad eisoes wedi paratoi cyfres o fapiau sy’n adnabod nifer o ardaloedd lle dylid mynd ati i sefydlu ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd ar fyrder,” meddai.

“Mae nod uchelgeisiol y Llywodraeth yn gwbwl ddibynnol ar gynyddu niferoedd sy’n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Felly mae cynyddu seilwaith yr ysgolion cyfrwng Cymraeg yn elfen anhepgorol o’r siwrnai at y filiwn.

“Mae’n dda gweld y Llywodraeth yn cydnabod yr angen i gyflymu hyn os ydym i gael unrhyw obaith o lwyddo. Mae’r ysgrifen ar y mur: mae’r galw yn ddiamheuol, ond ni ddaw yr ysgolion hyn heb chwyldroi agweddau a meddylfryd ac heb sicrwydd o fuddsoddiad fel nas gwelwyd o’r blaen.”