Chris Coleman, rheolwr tim pel-droed Cymru
Roedd dangos i’r byd beth yw Cymru – a phwy ydi pobol Cymru – yn bwysig i reolwr y tim pel-droed cenedlaethol yn ystod pencampwriaeth yr Ewros yn Ffrainc y llynedd.

A dyna pam, meddai Chris Coleman, y mae e’n canu’r anthem genedlaethol gydag arddeliad ar ddechrau pob gêm ryngwladol.

Yr wythnos hon, mae’n sefyll ysgwydd ac ysgwydd gyda’r Prif Weinidog Carwyn Jones, wrth i Lywodraeth Cymru lansio ei strategaeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050.

“Roedd gyda ni gyfrifoldeb i ddangos i’r byd mai dyma yw Cymru, dyma pwy ydyn ni, dyma pa mor angerddol ydyn ni dros ein gwlad,” meddai Chris Coleman wrth golwg360.

“Dyna pam dw i’n canu’r anthem genedlaethol, mae am wlad y beirdd ac am anrhydeddu’r sawl a frwydrodd yn galed a chynrychioli eu gwlad.

“Dyna beth rydyn ni’n ei wneud yn nhermau pêl-droed, ac mae’n bwysig iawn fod pobol yn deall beth sy’n ein gwneud ni yn Gymry.

“Dyma yw ein hiaith genedlaethol ni… dyw pawb ddim yn gallu ei siarad, ond mae’n rhan o’n diwylliant, a rhaid i ni gofio hynny.”

A beth am gyrraedd Cwpan y Byd 2018?

“Mae’r freuddwyd yn dal yn fyw, gant y cant,” meddai Chris Coleman. “Fe fyddwn ni’n brwydro gyda phob gewyn, ac mae cyfle gyda ni o hyd.

“Mae’r pedair gêm nesaf yn mynd i fod yn bwysig – a’r gêm nesaf yn erbyn Awstria yng Nghaerdydd fydd y gêm bwysicaf r’yn ni wedi cael ers amser hir iawn… Dw i’n edrych ymlaen ati, ac mae popeth yn y fantol!”