Rali 'Conradh na Gaeilge' yn galw am ddeddf iaith i'r Wyddeleg
Mae deddf iaith gyntaf i’r Wyddeleg yng Ngogledd Iwerddon “yn y gwynt”, yn ôl grŵp pwysau lleol.

Mae cadeirydd Conradh na Gaeilge wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn “hyderus” y bydd y ddêl rhwng Sinn Féin a’r DUP yn y Stormont yn cynnwys cyflwyno deddf i ddiogelu’r iaith Wyddeleg.

“Mae sicrhau deddfwriaeth i’r Wyddeleg yn sicr ar frig yr agenda. Bydden i’n dychmygu bod y cwestiwn o gael Deddf Iaith ar frig y trafodaethau ar hyn o bryd,” meddai Pádraig Ó Tiarnaigh.

“Bydden i’n hyderus iawn bod unrhyw ddêl sy’n dod yn cynnwys Deddf Iaith. Os nad oes yna Ddeddf Iaith, rydyn ni wedi cael gwybod na fydd dêl.”

Gwrthod symud

Mae’r trafodaethau er mwyn adfer trefn yn Stormont yn parhau heddiw, gyda phleidiau Gogledd Iwerddon yn anelu i lunio dêl cyn y terfyn amser prynhawn ddydd Iau.

Ond cyflwyno Deddf yr Iaith Wyddeleg sydd ymysg un o’r pynciau dadleuol.

Tra bod Sinn Féin yn mynnu nad ydyn nhw am gyfaddawdu dros y ddeddf, mae Arweinydd y DUP, Arlene Foster, wedi dweud na fyddai’r ddeddf yn cael ei chyflwyno dan ei harweiniad hi.

“Mae sylwebwyr gwleidyddol y wlad wedi cydnabod mai’r Wyddeleg yw un o’r pynciau lle mae ‘na anghytuno, os nad un o’r rhai pwysicaf, ymhlith y cwestiwn o barhad Arlene Foster fel Prif Weinidog,” eglura Pádraig Ó Tiarnaigh.

“Heb amheuaeth, hwn fydd y brif linell goch y mae Sinn Féin wedi tynnu.”

15,000 ar strydoedd Belffast

Mae Conradh na Gaeilge wedi bod yn pwyso ers blynyddoedd am ddeddf iaith ac ym mis Mai eleni, dywed Pádraig Ó Tiarnaigh y bu 15,000 mewn rali ar strydoedd Belffast yn mynnu cyflwyno’r ddeddf.

“Mae Mesur y Wyddeleg yn rhywbeth a gafodd ei gytuno fel rhan o’r cytundeb Sant Andrew 10 mlynedd yn ôl, cafodd ei arwyddo gan Lywodraeth Iwerddon a’r Llywodraeth Brydeinig, a does dim penderfyniad wedi bod 10 mlynedd yn ddiweddarach,” meddai.

“Rydym wedi lobïo pob un o’r pleidiau ynghylch hwn ac fe wnaeth 50 o’r [90] o Aelodau [Cynulliad Gogledd Iwerddon] gytuno a chefnogi’r achos am Ddeddf Iaith.

“R’yn ni hefyd wedi cwrdd â’r DUP i drafod y costau [o sefydlu Deddf Iaith] ac maen nhw wedi dweud bod ein costau yn rhesymol, gan fod y DUP wedi dweud mai’r gost yw’r prif reswm dros wrthod y ddeddf.”

Mae’r trafodaethau rhwng dwy brif blaid Gogledd Iwerddon yn parhau, ac mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi eu rhybuddio y bydd “goblygiadau difrifol” os na fydd cytundeb erbyn prynhawn dydd Iau.

Os na fydd cytuno erbyn hynny, mae’n debygol y bydd Gogledd Iwerddon yn cael ei rheoli’n uniongyrchol gan San Steffan.