col
Yn ôl canlyniadau addysgu mewn prifysgolion, mae myfyrwyr sy’n dilyn o leia’ rhan o’u cwrs yn Gymraeg yn fwy tebygol o gael gwaith ar ôl gorffen eu hastudiaethau.

Maen nhw hefyd yn fwy tebygol o fod yn fwy tebygol o fod yn hapus â safon yr addysgu mewn prifysgolion ac yn llai tebygol o adael eu cyrsiau heb raddio.

Dyma’r tro cyntaf i’r rhaglen asesu safonau addysgu prifysgolion – y Rhagoriaeth Fframwaith Addysgu [TEF] gynnwys y Gymraeg  wrth ystyried safon prifysgolion yng Nghymru.

Mae saith prifysgol o Gymru wedi cael eu cynnwys yn y rhaglen, gyda Phrifysgol Bangor yn cael safon aur, pump – Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam, yn cael safon arian ac un – Prifysgol y Drindod Dewi Sant yn cael safon efydd.

Doedd Prifysgol Aberystwyth na Phrifysgol De Cymru ddim wedi cyflwyno data i asesiad y fframwaith.

Y canlyniadau

Mae’r sefydliad yn ystyried safonau addysgu, adborth ar waith myfyrwyr, nifer y myfyrwyr sy’n cael swyddi, gan gynnwys swyddi o ansawdd uchel wedi graddio, cefnogaeth academaidd a nifer y myfyrwyr sy’n gadael cyrsiau heb eu gorffen.

Ar y cyfan, roedd myfyrwyr sy’n astudio o leia’ pum credyd o’u cwrs drwy’r Gymraeg yn teimlo bod safon yr addysgu yn well na’r myfyrwyr oedd yn astudio drwy’r Saesneg.

Roedd hefyd llai o fyfyrwyr sy’n astudio drwy’r Gymraeg yn gadael eu cyrsiau yn gynnar ac roedd mwy ohonynt yn cael swyddi o safon uchel ar ôl graddio.

5.7% o fyfyrwyr Bangor oedd wedi gadael eu cwrs yn gynnar drwy gyfrwng y Gymraeg, o gymharu â 6.2% yn Saesneg.

Ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, roedd 7.1% o’r myfyrwyr ar gwrs sydd o leia’n rhannol Gymraeg wedi gadael a 10.2% oedd yn astudio’n unig drwy’r Saesneg wedi gwneud yr un peth.

Ac o ran cael swyddi – roedd 77% o fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg wedi cael swyddi o ansawdd uchel, gyda 65% o’r myfyrwyr sy’n astudio cyrsiau drwy’r Saesneg.

Ond ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant ac ym Mhrifysgol Caerdydd, roedd mwy o fyfyrwyr cyfrwng Saesneg wedi mynd ymlaen at swyddi o ansawdd uchel.

54% oedd y ganran, o gymharu â 48.8% ar gyfer myfyrwyr y Drindod sy’n astudio rhan o’u cyrsiau drwy’r Gymraeg. Er hynny, roedd mwy o fyfyrwyr oedd yn astudio drwy’r Gymraeg wedi cael swyddi wedi graddio – 96.3% o gymharu â 90.3%.

Yr un oedd y patrwm ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda 75.8% yn mynd ymlaen at swyddi gwell o gymharu â 77.7% – ond 96% o fyfyrwyr cyrsiau Cymraeg yn cael swyddi o gymharu â 94.9% o fyfyrwyr cyrsiau Saesneg.

“Balch iawn”

“Mae’r Coleg Cymraeg yn falch iawn o weld y Gymraeg yn rhan allweddol o fesuriadau’r Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu,” meddai Dafydd Trystan, Cofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

“Mae’n dda iawn gweld prifysgolion ar draws y wlad yn tanlinellu eu hymrwymiad i addysgu cyfrwng Cymraeg.

“Mae’r data sydd wedi ei gyhoeddi heddiw hefyd yn awgrymu fod y myfyrwyr sy’n astudio yn y Gymraeg yn elwa’n sylweddol ar eu cyrsiau prifysgol ac yn llwyddo i gael swyddi gwell ar ôl graddio.”

Mae’r Ceidwadwyr Cymraeg wedi dweud bod angen i safonau wella yng Nghymru ar ôl gweld mai dim ond un prifysgol yng Nghymru lwyddodd i gyrraedd y safon aur.