Hysbyseb Redrow ar gyfer cartrefi Goetre Uchaf ger Bangor
Mae’r mudiad Dyfodol i’r Iaith wedi galw am gynllun cadarnach sy’n ystyried effaith datblygiadau newydd ar y Gymraeg.

Daw hyn wrth iddyn nhw feirniadu hysbyseb gan gwmni tai Redrow sy’n marchnata cartrefi ystâd Goetre Uchaf ger Bangor “at brynwyr tu allan i Gymru.”

Mae un o hysbysebion cwmni Redrow Homes yn darllen – “move to North Wales with Redrow Homes.”

Yn ôl Dyfodol i’r Iaith, mae hyn yn arwydd fod angen strategaeth gryfach sy’n ystyried effaith datblygiadau ar y Gymraeg.

‘Astudiaeth fanwl’

Mae Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, Heini Gruffudd, wedi beirniadu’r hysbyseb am fod yn uniaith Saesneg gan ddenu pobol i’r ardal drwy ganmol yr amgylchedd naturiol.

Dywedodd fod angen i’r cynllun datblygu lleol gynnwys “astudiaeth fanwl ar effaith negyddol y tai ar yr iaith.”

“Clustnodwyd nifer fechan o dai yng Nghoetre Uchaf fel unedau fforddiadwy, ond heb fframwaith asesu digonol i ystyried yr oblygiadau ieithyddol, esgus yw hyn yn y bôn,” meddai.

“Byddwn yn pwyso drachefn am strwythur a methodoleg gadarn a grymus i asesu gwir effaith datblygiadau o’r math ar y Gymraeg.”

Mae’r mudiad hefyd yn codi pryderon am gynllun sydd ar y gweill gan gwmni Morbaine i godi 366 o dai ym Mhenrhosgarnedd, Bangor.

‘Cefnogi a datblygu’

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran cwmni tai Redrow – “mae Redrow wedi ymrwymo i gefnogi a datblygu’r cymunedau lle mae’n adeiladu.”

“Yn bennaf oll rydym yn gwerthu cartrefi yng Nghymru i bobol Cymru, ond mae yna rai sy’n dymuno symud i’r ardal, gan gynnwys pobol sy’n wreiddiol o Gymru sydd am ddychwelyd i fagu teulu neu efallai ymddeol,” meddai.

“Mae datblygiad Redrow yn cynrychioli buddsoddiad mawr yn y gymuned gan gynnwys cyfraniad sylweddol i ddarpariaeth addysg leol, sydd wedi’i osod gan yr awdurdod lleol.”