Tim WiciMôn
Mae prosiect wedi cael ei lansio yn Ynys Môn sy’n annog pobol i greu ac uwchlwytho erthyglau Cymraeg am y sir i’r gwyddoniadur ar-lein, Wicipedia Cymru.

Trwy brosiect WiciMôn, mi fydd gweithdai yn cael eu cynnal lle fydd phobl ifanc ac aelodau o’r gymuned ehangach yn cael eu hyfforddi i greu erthyglau a thynnu lluniau i gyd-fynd â nhw.

Menter Môn sydd yn arwain y prosiect, a chaiff ei rhedeg mewn partneriaeth â’r Eisteddfod Genedlaethol a Wici Cymru.

Nod y prosiect yw codi statws yr iaith Gymraeg “yn genedlaethol a rhyngwladol” trwy erthyglau ar lein am elfennau hanesyddol, gwyddonol ac ieithyddol yr ynys.

“Datblygiad cyffrous”

“Mae’r prosiect hwn yn torri tir newydd ac yn ddatblygiad cyffrous iawn yn ein gwaith wrth ddatblygu defnydd o’r Gymraeg yn gymunedol,” meddai Prif Swyddog Menter Iaith Môn, Helen Williams.

“Ar hyn o bryd prosiect unigryw i Fôn yw hwn, ond o weld ei lwyddiant bydd modd i ni gynnig arweiniad i ardaloedd eraill yng Nghymru hefyd.”

Mae’r prosiect yn dilyn ôl traed cynllun tebyg o’r enw ‘Wicipop’ cafodd ei lansio gan Wicipedia Cymru ym mis Chwefror er mwyn annog pobol i uwch lwytho cynnwys ‘pop’ Cymraeg i’r wefan.