Mae yna gynnydd yn y nifer o bobol sy’n mynd ati i ddysgu Cymraeg ym Mhatagonia, yn ôl ystadegau.

Yn ôl Cynllun yr Iaith Gymraeg, sy’n hyrwyddo a datblygu’r defnydd o’r iaith yn ardal Chubut, fe wnaeth dros 1,200 o bobol ddysgu Cymraeg yn 2016 – y ffigwr uchaf ers sefydlu’r cynllun yn 1997,  sy’n dangos cynnydd o 4.1% ers y flwyddyn flaenorol.

Mae rheolwyr Cynllun yr Iaith Gymraeg yn credu bod y cynnydd hwn wedi dod yn sgil datblygiad ym myd addysg Gymraeg ym Mhatagonia, gyda Ysgol y Cwm, ysgol ddwyieithog cyfrwng Cymraeg-Sbaeneg, wedi ei sefydlu yn Nhrevelin ym mis Mawrth 2016.

Mae’r ysgol ar hyn o bryd yn dysgu 50 o ddisgyblion oedran babanod, ond yn gobeithio cynyddu’r rhif hwn i 150.