Mae siaradwyr Cymraeg yn derbyn diagnosis dementia tair blynedd yn hwyrach na phobol sydd yn siarad Saesneg yn unig, yn ôl ymchwil sydd wedi ei gyhoeddi yn y  Journal of Neurosychology.

Bu gwyddonwyr yn astudio 37 o bobol ddwyieithog a 49 oedd ond yn siarad Saesneg yn unig.

Ar ôl cynnal profion meddyliol – cognitive tests – daeth ymchwilwyr i’r casgliad bod Cymry dwyieithog ar gyfartaledd dair blynedd yn hŷn yn cael diagnosis a bod eu profion yn waeth.

Yn ôl Ymchwilydd Dementia ym Mhrifysgol Bangor, Dr Catrin Hedd Jones, mae nifer o ffactorau posib gall gyfrannu at Gymry Cymraeg yn derbyn diagnosis hwyrach gan gynnwys “ffactorau diwylliannol” a “diffyg gwasanaeth dwyieithog.”

Ymchwil pellach

“Os oes gymaint o bwyslais ar gynyddu diagnosis i Gymry dw i’n meddwl bod o’n bwysig bod ni’n edrych tu cefn i hyn rŵan ac yn cael rhagor o drafodaeth ynglŷn â pham mae hyn yn bod a be ddylwn ni wneud i symud ymlaen,” Catrin Hedd Jones wrth golwg360.

“Fel ymchwilydd baswn i’n dweud bod angen lot mwy nag hyn i gadarnhau os ydy o’n ffaith … Oherwydd bod gennym ni bapur sydd wedi cael ei gyhoeddi, mae’n bwysig bod ni’n dilyn o fyny yn hytrach na’i adael o yn Journal of Neurosychology.”