Fiona McFarlane
Mewn seremoni yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe, nos Fercher, cyhoeddwyd mai Fiona McFarlane, awdur 39 oed o Sydney, Awstralia, yw enillydd Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, gwerth £30,000.

Y gyfrol fuddugol, The High Places, yw’r ail lyfr i Fiona McFarlane ei gyhoeddi. Mae’r casgliad o straeon yn teithio cyfandiroedd, yn rhychwantu cyfnodau gwahanol mewn amser, ac yn trafod amrywiaeth o themâu fel hiraeth, atgasedd, cariad ac ofn.

Yn ol Dai Simith, cadeirydd y panel beirniaid, mae gwaith Fiona McFarlane yn feistrolgar ac yn “gasgliad bythgofiadwy o straeon byrion syfrdanol”.

“Mae hwn yn waith aeddfed gan awdur ifanc sy’n amlygu’r gwir enaid rhyngwladol o’r wobr hon,” meddai wedyn.

Roedd y rhestr fer eleni yn cynnwys straeon byrion, nofelau a barddoniaeth gan awduron o Sri Lanca, yr Unol Daleithiau a gwledydd Prydain.

Mae’r wobr yn cael ei ddyfarnu i’r darn gorau o waith sydd wedi’i gyhoeddi’n Saesneg ac sydd wedi’i ysgrifennu gan awdur sy’n 39 mlwydd oed neu’n iau.

Gwobrau eraill 

Nid dyma’r wobr gyntaf i Fiona McFarlane ei hennill. Fe ddaeth ei chyfrol gyntaf, The Night Guest, i frig gwobr lenyddol Voss, ac mae Fiona McFarlane hefyd wedi ennill Gwobr Barbara Jefferies yn 2014, ynghyd â lle ar restr fer Gwobr Llyfr Cyntaf y Guardian yn 2014