Caerdydd
Mae golwg360 ar ddeall bod pedwar o swyddogion Cyngor Caerdydd wedi gwrthod cyhoeddi canlyniadau’r etholiadau lleol.

Maen nhw yn anhapus bod y cyngor wedi penderfynu, ar y funud olaf, y dylid cyhoeddi’r canlyniadau yn yr iaith Saesneg yn gyntaf, ac yna yn yr iaith Gymraeg.

Yn ystod etholiadau’r Cynulliad yn 2016 – a hynny am y tro cyntaf –  roedd Cyngor Caerdydd wedi penderfynu darllen y canlyniadau yn Gymraeg yn gyntaf.

Pedwar swyddog sydd wedi penderfynu peidio darllen y canlyniadau ac mae’n debyg bod Cyngor Caerdydd wedi dod o hyd i bobol eraill yn eu lle.

“Cam yn ôl”

Dywedodd un o’r swyddogion sydd wedi tynnu allan wrth golwg360 ei fod yn credu bod yna “gynsail” wedi’i osod pan benderfynodd y Cyngor ddarllen canlyniadau yn Gymraeg yn gyntaf y llynedd, a “cam yn ôl” wedi digwydd eleni.

“Ro’n i’n teimlo fod hwn yn gam yn ôl i’r Cyngor ar ôl etholiadau’r llynedd o ran yr iaith, a doeddwn i ddim yn gyfforddus yn bod yn rhan o hynny,” meddai.

Cymdeithas yr Iaith yn ymateb

“Yn anffodus nid ydym fel grŵp Cymdeithas Caerdydd wedi ein syfrdanu gan y datblygiad hwn, ymddengys fod diwylliant wrth-Gymreig sefydliadol y Cyngor yn fyw ac yn iach o hyd,” meddai Owain Rhys Lewis, cadeirydd cell y mudiad yng Nghaerdydd.

“Er bod rhai ymysg y gyfundrefn yn gwneud eu gorau glas i newid agweddau, rhwystredig yw cael cadarnhad mai bach iawn yw’r newid hwn mewn gwirionedd. Fe gymrodd y Cyngor cam cadarnhaol trwy gyhoeddi yn Gymraeg yn gyntaf y llynedd, ar ba sail felly y cymerwyd y penderfyniad hwn? Mae’n ymddangos fel gweithred symbolaidd yn erbyn y Gymraeg.”

Ddechrau’r flwyddyn, fe wnaeth Comisiynydd y Gymraeg gyhoeddi adroddiad bod defnydd y Gymraeg mewn etholiadau wedi gwella ond ei fod yn “anfoddhaol” o hyd. Nid oedd am wneud sylw ar y mater hwn.

Ymateb Cyngor Caerdydd

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Dinas Caerdydd: “Fel Cyngor rydym yn cymryd ein dyletswydd i hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn ddifrifol iawn ac rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo Caerdydd cwbl ddwyieithog.  Dyma’r achos hefyd wrth gefnogi etholiadau, yr ydym yn falch o ddweud sy’n gwbl ddwyieithog.  Yn ôl canllaw’r Comisiwn Etholiadol mae’r drefn ar gyfer darllen canlyniadau etholiad yn ddwyieithog yn ôl disgresiwn y Swyddog Canlyniadau.  Nid yw hyn yn gostwng statws yr iaith Gymraeg nac yn mynd yn erbyn safonau’r Gymraeg, yr ydym yn eu cefnogi’n llawn.”