Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu addewidion i Gymreigio’r gwasanaeth iechyd yn y de-orllewin.

Mewn cyfarfod agored yng Nghaerfyrddin ddoe, bu Enfys Williams, Rheolwr Gwasanaethau Cymraeg Bwrdd Iechyd Hywel Dda, yn esbonio’r camau mae’r bwrdd yn eu cymryd i Gymreigio’u darpariaeth.

Roedd y rhain yn cynnwys sesiynau ymwybyddiaeth iaith, dosbarthu adnoddau i annog staff i ddechrau sgyrsiau’n Gymraeg, cefnogi staff i ddysgu Cymraeg, a’u bwriad i benodi tiwtor Cymraeg i fagu hyder staff i ddefnyddio’r Gymraeg.

Wrth ymateb, dywedodd Manon Elin, Cadeirydd Grŵp Hawliau Cymdeithas yr Iaith:

“Mae’r rhain yn bethau da ar gyfer y tymor byr. Er hynny, gan nad yw cleifion yn aml mewn sefyllfa i ofyn am wasanaeth Cymraeg, mae’n bwysig bod y gwasanaeth Cymraeg ar gael heb orfod gofyn amdano. Er mwyn i hynny ddigwydd mae angen newid sylfaenol fel nad yw’r Gymraeg yn rhywbeth ymylol mewn sefydliad Seisnig. Gobeithiwn barhau i gyd-weithio gyda’r Bwrdd Iechyd i wneud hynny.”

Hyfforddiant

“Rydyn ni’n deall fod y gwasanaeth iechyd dan straen, ac nad yw dysgu neu gynyddu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn gallu cael blaenoriaeth ynghanol gwaith bob dydd,” meddai Manon Elin.

“Dyna pam mae hyfforddiant gweithwyr iechyd mor bwysig. Mae cyfle i’r Bwrdd Iechyd gyd-weithio gyda darparwyr iechyd fel bod modd gwneud cyrsiau meddygol yn Gymraeg a bod y Gymraeg yn rhan o gwrs pawb sy’n hyfforddi i weithio yng Nghymru. Bydd hynny’n creu sylfaen ar gyfer gwasanaeth iechyd Cymraeg y dyfodol.”