Tŷ’r Cyffredin yn Llundain Llun: PA
Mae modd teithio o gwmpas Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi yn San Steffan gyda sylwebaeth sain yn y Gymraeg am y tro cyntaf erioed.

Daw hyn wrth i Senedd y Deyrnas Unedig lansio technoleg sain yn y Gymraeg ar gyfer pobol sy’n mynd ar daith tywys o gwmpas y Senedd, unai wrth eu hunain neu mewn grŵp.

“Mae’r teithiau sain Cymraeg newydd yn darparu cyfle gwych i siaradwyr y Gymraeg ddod i’r Senedd a mwynhau dysgu am hanes y lleoliad eiconig hwn, a hynny yn eu mamiaith,” meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns.

Y Gornel Gymraeg

 

Ym mis Hydref y llynedd fe wnaeth Senedd y Deyrnas Unedig lansio adran newydd ar eu gwefan ar gyfer eu holl wasanaethau Cymraeg, sef Y Gornel Gymraeg.

Ac yn ôl Pennaeth Gwasanaethau Ymwelwyr y Senedd mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu’r gwasanaethau Cymraeg ymhellach.
“Rydyn ni hefyd yn datblygu ein hamrywiaeth o wasanaethau, megis ein gwasanaeth ymholiadau Cymraeg, sy’n dangos ein hymrwymiad i estyn allan ar draws y Deyrnas Unedig,” meddai Amy Pitts.