Rhan o lythyr Gareth Rees yn rhifyn diweddaraf Private Eye
Mae’r ffraeo dros newid statws iaith Ysgol Llangennech yn parhau ar dudalennau cylchgrawn dychanol, Private Eye, gyda llythyr arall ar y pwnc wedi’i gyhoeddi yn y rhifyn diweddaraf.

Mae Dr Gareth Rees o Lanafan, Ceredigion, yn beirniadu darllenwr arall am ei “ragfarn bychanfrydig” yn erbyn y Gymraeg.

Yn y rhifyn cynt o’r Eye, roedd llythyr gan David Howard o’r Gelli Gandryll yn cwyno bod “gormod o arian” yn cael ei wario ar gyfieithu dogfennau yng Nghymru, tra bod “llyfrgelloedd, toiledau cyhoeddus, gofal cymdeithasol i’r henoed a gwasanaethau eraill sy’n cael eu hariannu’n gyhoeddus yn cael eu torri’n ddifrifol”.

Dywedodd hefyd y byddai rhoi addysg Gymraeg i’w blant yn “niwed anochel”.

‘Dragon… and on’

Yr wythnos hon, dan y teitl ‘Dragon… and on’, mae Gareth Rees yn dweud yn ei lythyr nad yw ei sylwadau’n adlewyrchu barn ar lawr gwlad ar yr iaith ac addysg Gymraeg.

“Mae arolygon barn wedi dangos yn gyson bod y mwyafrif sylweddol o boblogaeth Cymru o blaid ymdrechion i hyrwyddo’r iaith frodorol,” meddai.

“Ac mae’r galw am addysg gyfrwng Gymraeg ledled y wlad wedi bod yn fwy na’r ddarpariaeth ers degawdau.

“Dyma’r cefndir i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu darpariaeth addysg gyfrwng Gymraeg a’i tharged o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

Mae’r Prif Lenor, Robin Llywelyn, eisoes wedi herio’r papur newydd tros erthygl ar droi Ysgol Llangennech, Llanelli, yn ysgol gyfrwng Gymraeg.