Prifysgol Caerdydd (llun golwg360)
Fe fydd Undeb Myfyrwyr annibynnol i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yn cael ei sefydlu yng Nghaerdydd ar ôl “bod pedair degawd ar ei hôl hi”.

Y bwriad yw sefydlu undeb tebyg sydd yn Aberystwyth a Bangor erbyn dechrau’r flwyddyn academaidd nesaf er mwyn cynrychioli ac ymgyrchu dros hawliau siaradwyr Cymraeg Prifysgol y brifddinas.

Yng nghyfarfod Senedd y Myfyrwyr yn yr Undeb ddydd Mawrth, fe bleidleisiodd 87% o blaid sefydlu Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd – UMCC.

Yn ôl Swyddog y Gymraeg Undeb Myfyrwyr Caerdydd, Osian Wyn Morgan, sy’n fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, mae’n gam a ddylai fod wedi digwydd blynyddoedd yn ôl.

“Pedwar degawd yn hwyr”

“Ers sefydlu UMCA yn Aberystwyth yn 1973, ac UMCB ym Mangor yn 1976, rydym wedi bod bedwar degawd ar ei hôl hi o ran cynrychiolaeth i fyfyrwyr Cymraeg a dysgwyr yn ein prifddinas,” meddai Osian Morgan.

“Mae datblygiad fel hwn yn rhywbeth a ddylai wedi digwydd degawdau yn ôl – ond gwell hwyr na hwyrach.

“Rwy’n hyderus y bydd sefydlu UMCC yn gam cadarnhaol ac angenrheidiol ar ein taith i sicrhau cydraddoldeb ieithyddol i fyfyrwyr Cymraeg yn ein prifddinas.”

Myfyrwyr Cymraeg yn “ynysig”

Y gobaith, yn ôl Osian Wyn Morgan, yw ennyn parch at statws y Gymraeg o fewn y Brifysgol ac i atal myfyrwyr Cymraeg rhag teimlo’n ynysig o ran gweithgareddau’r Undeb ehangach a’r Brifysgol.

“Dros y blynyddoedd diwetha’, mae siaradwyr Cymraeg wedi cymryd camau cadarnhaol o ran y Gymraeg yn yr Undeb – gyda chreu polisi iaith gynhwysfawr i’r Undeb y Llynedd yn un ohonyn nhw.

“Mae yna nifer o broblemau wedi codi yn y berthynas rhwng siaradwyr Cymraeg a’r Undeb, a’r gobaith yw y bydd sefydlu UMCC yn rhoi statws, ac ennyn parch, i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr o fewn yr Undeb, ac yn creu deialog iachus rhwng siaradwyr Cymraeg a’r Undeb.”