Bydd cyfarfod cyntaf cymdeithas newydd yn cael ei gynnal yn Nolgellau ddydd Gwener er mwyn trafod y posibilrwydd o brynu papur Y Cymro.

Cyhoeddodd perchnogion y papur, Tindle Newspapers, bythefnos yn ôl eu bod yn chwilio am brynwyr ac os na ddaw prynwr i’r amlwg gall y papur newydd wythnosol ddod i ben ym mis Mehefin.

Bydd y grŵp yn ystyried y posibilrwydd o berchnogaeth gymunedol o’r papur , yn ôl Gruff Meredith – sydd hefyd yn cael ei adnabod fel MC Mabon – sydd yn aelod o’r gymdeithas anffurfiol.

“Mae grŵp ohonom ni yn dod at ein gilydd i drafod y posibiliad. Boed hynny’n unigolyn neu grŵp o bobol yn trefnu’r peth ac yn prynu’r papur,” meddai wrth Golwg360.

“Mae ‘na bobol dros Gymru i gyd.  Ry’n ni’n trio cael gwahanol bobol, amrywiaeth o bobol i drafod y posibiliad. Does dim byd pendant eto.”

“Dod a gwasg annibynnol yn ôl i Gymru”

Mae’n debyg bod y gymdeithas wedi ei sbarduno gan egwyddor genedlaetholgar i ddychwelyd y papur Cymreig, a gafodd ei sefydlu yn 1932 yn Wrecsam, i ddwylo’r Cymry.

“Y brif egwyddor ydy, mae’n gyfle gwych i ddod a pherchnogaeth papur Cymraeg yn ôl i berchnogaeth y Cymry achos yn amlwg o’r blaen perchnogion o Loegr oedden nhw.”

“Mae’n gyfle gwych i ddod a gwasg annibynnol yn ôl i Gymru, yn sicr mae angen mwy o hynna … Mae ‘di bod ar goll ers amser maith – mae’r egwyddor yn bwysig.”

Mae sawl opsiwn wedi ei ystyried ar gyfer Y Cymro gyda’r cynhyrchydd Eifion Glyn – wnaeth dreulio cyfnod yn y 1970au yn gohebu i’r wythnosolyn – yn awgrymu y gall adran newyddiadurol Prifysgol Caerdydd brynu’r papur.

Mae cwmni cyhoeddi Y Lolfa eisoes wedi dweud nad ydyn nhw mewn sefyllfa i gymryd y papur dan ei adain.