Ysgol Llangennech, Llun: Y Byd ar Bedwar
Mae un ysgol gynradd ddwyieithog yn Sir Gar yn dweud nad ydyn nhw eisiau gweld ffrae addysg Gymraeg Llangennech yn cael ei ailadrodd yn eu pentre’ nhw.

Mae Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol y Felin yn Felin-Foel wedi dweud wrth raglen Y Byd ar Bedwar nad yw’r ysgol yno yn bwriadu newid os fydd gwrthwynebiad cryf ar lawr gwlad.

“Does dim pwynt mewn ysgol fel hyn nawr, ble ma’ ryw 35% o’r plant yn y ffrwd Gymraeg, bod ni’n dod mewn â fe ac wedi ’ny bod ’na lot o gwmpo mas,” meddai’r Cynghorydd Annibynnol Hugh Richards, sydd ar fwrdd Llywodraethwyr Ysgol y Felin ers 2004.

“Rhaid i ni fynd â’r gymuned gyda ni”

 

Mae e’n dweud ei fod yn gefnogol i bolisi addysg Gymraeg Cyngor Sir Gar, sydd eisiau gweld ysgolion y sir yn symud ar hyd y “continwwm iaith” – gan olygu bod ysgolion cynradd dwyieithog y sir yn troi’n rhai cyfrwng Cymraeg. Ond mae’n rhybuddio bod gwersi i’w dysgu o’r hyn ddigwyddodd dair milltir i ffwrdd yn Llangennech.

“Dyw e ddim yn mynd i fod yn rhwydd. Symo i moyn, fel digwyddodd yn Llangennech, ei fod e’n destun yn y Cynulliad, ar bob papur, ar bob blog. Nid dyna’r ffordd ymlaen. Os y’n ni’n symud ymlaen â hwn, mae’n rhaid i ni fynd â’r gymuned gyda ni.”

Mae’n dweud bod y syniad o droi’r ysgol yn un cyfrwng Cymraeg wedi cael ei wyntyllu yn y gorffennol, ond bod gwrthwynebiad y gymuned wedi atal y newid bryd hynny.

“Pum mlynedd yn ôl roedd fwy o blant yn siarad Cymraeg yn dod yma… Fe drïon ni bryd hynny, ond roedd ’na growd o rieni bryd hynny yn ei erbyn e.”

“Cefnogaeth”

Mae Y Byd ar Bedwar wedi siarad â llywodraethwyr o wyth ysgol gynradd arall ddwyieithog yn Sir Gaerfyrddin, sy’n dweud nad oes trafodaethau ar waith yn eu hysgolion nhw chwaith i newid yn ysgolion cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd.

Er hynny, mae’r Cynghorydd a luniodd strategaeth iaith y Sir yn dilyn cyfrifiad 2011 yn dweud ei fod yn hyderus fod cefnogaeth i’r newid o fewn ysgolion cynradd dwyieithog eraill yn y sir.

“Mae’r amserlen ar gyfer y gweddill yn mynd i amrywio. Mae ‘na ryw dair, bedair ysgol sy’n barod i symud, o leia’ ystyried mynd drwy’r broses statudol, ac wedyn mae rhai eraill yn mynd i ddilyn pan fydd trafodaethau yn digwydd gyda nhw,” meddai Cefin Campell.

Mae e hefyd yn mynnu bod cefnogaeth wedi bod i’r newid ar lawr gwlad yn Llangennech.

“Mae trwch poblogaeth Llangennech, beth bynnag mae’r gwrthwynebwyr yn ei ddweud, yn cefnogi’n polisi ni… Ma’ rhieni wedi gwneud y dewis yn barod. Ma’ 80% o blant ysgol Gymraeg Llangennech yn y ffrwd Gymraeg. Mae hynny’n dangos yn glir bod rhieni wedi penderfynu eisoes ar gyfrwng addysg eu plant.

“Mae’r polisi o droi ysgolion dwy ffrwd yn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn mynd i barhau yn bendant. Mae e’n bolisi gan y Cyngor Sir ac mae’n bolisi sydd wedi cael cefnogaeth bob plaid wleidyddol.”

Dysgu gwersi

 

Ond mae Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol y Felin, Hugh Richards, yn dweud bod angen dysgu gwersi o Langennech os yw’r Cyngor Sir yn bwrw ymlaen â’u cynlluniau yng ngweddill y sir.

“Beth ma hwn wedi dysgu i ni gyd yw bod raid i chi fynd â’r gymuned gyda chi, gallwch chi byth dod â fe mewn ac anwybyddu’r gymuned.”
Mwy ar y stori hon ar Y Byd ar Bedwar: Gwersi Ysgol Llangennech – heno, 9.30pm ar S4C.