Alwyn Efans (Llun o'i dudalen Facebook)
Mae ymgyrchydd iaith a gafodd ei ddirwyo am dorri i mewn i dy haf yn y 1970au, yn dweud fod yr heddlu’n gwybod yn iawn pwy oedd yn gosod dyfeisiau yn enw Meibion Glyndwr – a dydi o ddim yn diystyru’r syniad mai nhw eu hunain oedd wrthi.

Mewn cyfweliad gyda golwg360, mae Alwyn Efans o Rostryfan yn dweud i “fom” gael ei chanfod yn nrws siop y pentre’ ychydig ddyddiau’n unig cyn i weiars gael eu canfod yn un o waliau enwog tyddyn y canwr Bryn Fôn yn 1990.

Yr hyn sy’n rhyfedd, meddai, ydi bod uchel swyddog gyda Heddlu Gogledd Cymru bryd hynny wedi dweud mai “dyfais union yr un fath” â honno a ganfuwyd yn nrws Siop Gwyled, Rhostryfan oedd honno yn Nasareth. Chafodd neb ei arestio wedi’r achos yn Rhostryfan – a chafodd Alwyn Efans, o gofio ei record, ddim hyd yn oed ei holi.

“O’n i’n byw mewn ty lle’r o’n i’n gallu gweld drws y siop,” meddai. “Ond, er bod yr heddlu wedi dod i’r pentre’ y diwrnod hwnnw ac wedi bod yn codi hen bobol o’u gwlâu am 6 o’r gloch y bora a’u rhybuddio nhw i beidio mynd allan oherwydd y bom, does yna neb wedi siarad efo fi byth – er bod gen i record ers i mi dorri i mewn i dy ha’ jyst cyn Eisteddfod Wrecsam yn 1977.

“Ac mae’n gwneud perffaith synnwyr, os mai’r un ddyfais yn union oedd yr un yn Siop Gwyled ac yn Nasareth, mai’r un person oedd wedi gosod y ddwy. Ond wnaethon nhw ddim dod o hyd i neb.

“Mi gerddon nhw o Rostryfan, rai dyddiau wedyn, i dyddyn Bryn Fôn, a dod o hyd i’r un ddyfais, ond doedd ganddyn nhw ddim diddordeb mewn dod o hyd i bwy oedd wedi’u gosod nhw.

“Dyna pam dw i’n meddwl mai job insider oedd hi, job yr heddlu cudd neu rywun,” meddai Alwyn Efans wedyn.

Torri i mewn 

Fe fu Alwyn Efans o flaen ei well ar ôl torri i mewn i dy ha’ ym mhentre’ Waunfawr ger Caernarfon yn 1977. Roedd o a chyfaill wedi torri ffenest yng nghefn Pen Ucha’r Ffordd, ac wedi meddiannu’r ty gwag.

Fe’u cafwyd ill dau yn euog o greu difrod trwy dorri gwydr, ac fe gawson nhw eu dirwyo £20, a’u gorchymyn i dalu costau ychwanegol o £5.

Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, ddechrau’r 1980au, fe dalodd dau o blismyn Heddlu Gogledd Cymru ymweliad ag Alwyn Efans, wrth drïo dod o hyd i bwy oedd yn rhoi tai ha’ eraill ar dân.

“Roeddan nhw’n dweud wrtha’ i fod un o fy ffrindiau o bentra’ Bethel, wedi dweud pob dim wrthyn nhw, ac y byddai’n well i minnau gyfadda hefyd,” meddai.

“Mi ddaethon nhw i fy ngweld i yn Sain, lle’r o’n i’n gweithio ar y pryd, a dweud ei bod hi’n amlwg fy mod i’n cefnogi Meibion Glyndwr… ond eto, pan oedd yna ‘fom’ yn y pentra’ lle’r o’n i’n byw, wnaethon nhw ddim dod yn agos ata’ i.”