RSS

Golwg360

MwyCau 

Annog capeli i helpu achub y Gymraeg

Mawrth 11, 2017 12:20 Diweddarwyd Mawrth 12, 2017 11:49


Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg, yn annerch aelodau Undeb yr Annibynwyr ddoe (llun: Alun Lenny)
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn galw ar aelodau’r cannoedd o gapeli Cymraeg yng Nghymru i helpu cyflwyno’r iaith i bobl ddi-Gymraeg yn eu hardaloedd.

Wrth annerch Cyngor Undeb yr Annibynwyr yng Ngregynog ger y Drenewydd ddoe dywedodd Meri Huws bod gan enwadau crefyddol ran bwysig i’w chwarae yn ymgyrch Llywodraeth Cymru i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050.

“Rhaid peidio bod yn rhy uchelgeisiol, ond gwneud pethau naturiol sy’n llwyddo,” meddai, wrth bwysleisio pwysigrwydd agor y drws i bobl sy’n dysgu Cymraeg – yn blant ac oedolion. “Er enghraifft, yn ystod hanner tymor beth am ddarparu gweithgarwch i blant trwy agor festrioedd?”

Cafodd sylwadau’r Comisiynydd eu croesawu gan gynrychiolwyr yr enwad, sydd bellach yn paratoi strategaeth i annog a galluogi ei 430 o eglwysi i ymuno yn yr ymgyrch.

Hybu ymwybyddiaeth

“Rydym wedi dechrau trafod sut y gallwn defnyddio’n hadnoddau, yn adeiladau a phobl, i hybu’r ymwybyddiaeth a’r defnydd o’r Gymraeg ar lawr gwlad,” meddai’r Parchg Jill-Hailey Harries, cydlynydd Rhwydwaith Merched yr Undeb, a fydd yn gyfrifol am arwain y strategaeth.

“Rydym wrthi’n paratoi rhestr o weithgarwch y byddai’n hollol ymarferol I’n haelodau gynnal mewn gapel neu festri – popeth o fore coffi i sgyrsiau am hanes a diwylliant lleol.

“Fe fyddwn ni hefyd yn sicrhau ein bod fel unigolion ac eglwysi yn ymateb i bob ymgynghoriad swyddogol sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg.”

Ychwanegodd Glyn Williams, Llywydd yr Annibynwyr, bod hwn yn brosiect allai symud pethau ymlaen.

“Bu sylwadau’r Comisiynydd yn fodd i’n sbarduno ni,” meddai. “Mae’r Gymraeg yn allweddol fel cyfrwng iaith ein haddoliad ni, ac mae’n hanfodol ei bod yn parhau felly o Sul i Sul, ond ein bod ni hefyd yn ymestyn tu allan i furiau capel. Mae hefyd yn fodd i bobl sylweddoli beth mae Undeb yr Annibynwyr yn ceisio’i wneud dros gymunedau yng Nghymru heddiw.”

Ychwanegu Sylw

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.


Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.


Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.


Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau ‘Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360’ yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.


Nodi Camddefnydd
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.