Dyblu nifer y rhai sy’n gallu siarad Cymraeg yng Nghaerdydd i dros 70,000 erbyn 2050 yw nod cynllun a fydd yn cael ei drafod gan gabinet Cyngor y Ddinas yr wythnos nesaf.

Cam cyntaf Strategaeth Iaith Gymraeg Caerdydd Ddwyieithog fydd codi nifer y siaradwyr Cymraeg i 42,584 erbyn 2021. Byddai hynny’n gyfystyr â cynnydd o 15.9% o gymharu â’r 36,735 a nodwyd yng nghyfrifiad 2011.

Rhan allweddol o’r strategaeth fydd ehangu addysg Gymraeg yn y ddinas, gyda phwyslais hefyd ar feysydd allweddol fel y teulu, plant a phobl ifanc, y gymuned, seilwaith, y gweithle a Gwasanaethau Cymraeg.

Mae’r strategaeth wedi’i datblygu yn unol â safon 145 Safonau’r Gymraeg sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor lunio a chyhoeddi strategaeth iaith Gymraeg a chefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru am filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

‘Naturiol’

Meddai’r Cyng. Phil Bale, Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd: “Fel prifddinas Cymru, nid yw ond yn naturiol i’r iaith Gymraeg fod yn rhan fawr o fywyd y ddinas.

“Dros y blynyddoedd diwethaf, mae naid wedi bod yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y ddinas, yn bennaf oherwydd twf addysg cyfrwng Cymraeg, gyda niferoedd cynyddol parhaus o blant a phobl ifanc yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Wrth wraidd ein huchelgais mae sicrhau bod yr iaith yn rhan o fywyd y tu allan i gatiau’r ysgol fel y gall pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau ddysgu a siarad Cymraeg fel rhan o fywyd bob dydd, gan gynnwys yn eu gwaith ac wrth chwarae, yn ogystal â defnyddio gwasanaethau a chymorth yn Gymraeg.

“Bydd y strategaeth hon yn ein rhoi ar daith o hyrwyddo a hwyluso’r Gymraeg yng Nghaerdydd, lle mae dwyieithrwydd yn normal a’r iaith yn cael ei diogelu a’i magu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Nid yw’n gynllun ar gyfer y Cyngor yn unig. Mae ar gyfer y ddinas gyfan, ac mae angen cymorth partneriaid o bob sector arnom i sicrhau ei lwyddiant o ran creu Caerdydd ddwyieithog.”