Angen efelychu'r Alban meddai RhAG (deunydd cyhoeddusrwydd Language Show Scotland)
Mae grŵp Rhieni dros Addysg Gymraeg wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal Ffair Ieithoedd yng Nghymru er mwyn dathlu ieithoedd lleiafrifol a’u gosod “ochr yn ochr ag ieithoedd ‘mawr’ y byd.”

Yn ôl RhAG, mae angen “dirfawr” am ddigwyddiad o’r fath er mwyn cael gobaith o gyrraedd targed y Llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

Mae’r mudiad am weld rhywbeth tebyg i’r Language Show Scotland, y digwyddiad iaith mwyaf yn Ewrop, sy’n cael ei gynnal yn Glasgow heddiw a fory ac sy’n cael cefnogaeth gan Lywodraeth yr Alban.

Mae’r sioe yn cynnwys seminarau, dosbarthiadau blasu iaith, fforymau byw a pherfformiadau diwylliannol i ddathlu ieithoedd y byd, gan gynnwys yr Aeleg.

Angen yr un peth yng Nghymru

“Mae’r digwyddiad hwn yn enghraifft wych o’r hyn sydd ei angen yma yng Nghymru,” meddai Lynne Davies, Cadeirydd Cenedlaethol RhAG.

“Dyma ddathliad bywiog, egnïol a chyffrous sy’n gosod ieithoedd lleiafrifol ochr yn ochr ag ieithoedd ’mawr’ y byd. Dyma’n union sydd ei angen er mwyn atgyfnerthu statws ein hieithoedd brodorol fel ieithoedd cyfoes, hyderus ac allblyg.

“Wrth i’r Llywodraeth amcanu i gyrraedd ei darged o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, bydd y gwaith o hyrwyddo’r Gymraeg yn gwbl greiddiol wrth weithredu’r polisi hwnnw yn llwyddiannus.”

Fe alwodd am dynnu nifer o bartneriaid at ei gilydd dan arweiniad y Llywodraeth.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.