Baner Cernyw (Llun: Wikipedia
Mae digwyddiadau ar y gweill heddiw i ddathlu Gool Peran – neu Ddydd Gŵyl Piran, nawddsant Cernyw.

Cafodd gŵyl ei chynnal ddoe yn nhref Resrudh (Redruth) i ddechrau’r dathliadau’n ffurfiol, ac mae rhagor o ddigwyddiadau ledled Cernyw heddiw a fory.

Heddiw ym Mhorthperran, fe fydd gorymdaith a chymanfa, yn ogystal â drama fydd yn adrodd hanes San Piran.

Yn nhref Truru (Truro), mae gorymdaith drwy strydoedd y dref cyn i Fardd Mawr Cernyw, Merv Davey annerch y gynulleidfa, a bydd corau a chantorion yn cynnig adloniant yn ystod y dydd.

Bydd sesiwn werin draddodiadol yn nhafarn y White Hart am 12.30pm wedi’r orymdaith.

Yn nhref Pennsans, fe fydd swper pastai dau gwrs yn nhafarn yr Acorn, lle bydd y gynulleidfa’n cael bod yn rhan o ddrama Gool Peran yn yr iaith Gernyweg gan Penny Norman, sy’n seiliedig ar hanes y sant.

Fe fydd y digwyddiadau’n rhan o ddigwyddiad ehangach Festival Kernewek, gŵyl yn yr iaith Gernyweg.

Shout – canu traddodiadol

Un o’r prif weithgareddau i ddathlu diwrnod nawddsant Cernyw yw’r ‘Shout’, sef canu traddodiadol mewn tafarndai.

Bydd y mwyaf o’r rhain yn nhref Trelawny, lle bydd y gynulleidfa’n dod ynghyd ar gyfer digwyddiad a fydd yn gorffen drwy gyd-ganu anthem Cernyw, ‘Trelawny’ (The Song of the Western Men).

Cafodd yr anthem ei hysgrifennu gan Robert Stephen Hawker yn 1824.

Cafodd y ‘Shout’ eleni ei threfnu gan Sefydliad Cymunedol Cernyw a’i chefnogi gan fragdy St Austell, a bydd tafarndai ar draws yr ardal yn cynnal digwyddiadau am 9 o’r gloch heno.

Ymhlith y rhai a fydd yn cymryd rhan yn yr amryw ddigwyddiadau mae corau’r ardal, ynghyd â’r grŵp poblogaidd ‘Fisherman’s Friends’, ac mae’r trefnwyr yn dweud bod “croeso i’r brain a’r eosiaid fel ei gilydd”.

Negeseuon ar Twitter


A hon gan y gomedïwraig Dawn French, sy’n enedigol o Gaergybi, ond sydd bellach yn byw yng Nghernyw: