Wrth geisio am gytundebau i ddarparu cyrsiau Cymraeg ar gyfer cynllun cenedlaethol newydd, mae’n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno’u tendrau yn y Saesneg.

Dyma’r amod sydd i’w gweld mewn hysbysebion sy’n cael eu cyhoeddi gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar wefan tendro Llywodraeth Cymru yr wythnos yma.

Mae’r hysbysebion yn ymwneud â rhaglen beilot sy’n cael ei chefnogi gan £3 miliwn o gyllideb ychwanegol i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r rhaglen, Cymraeg Gwaith, yn cynnwys amrywiaeth o gyrsiau ar gyfer dysgu Cymraeg i bobl wrth eu gwaith mewn gwahanol alwedigaethau.

‘Gwahaniaethu’

Roedd pennaeth un o’r sefydliadau sy’n gymwys i ymgeisio am y gwaith yn anfodlon hefyd nad oedd yr hysbysebion i’w gweld yn amlwg ar ochr Gymraeg y wefan tendro, Gwerthwch i Gymru.

Saesneg yn unig yw iaith y Cyfarwyddiadau a’r Telerau ac Amodau gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant ar gyfer y tendr, gan gynnwys y cymal “The Tender and all accompanying documents are to be in English.”

“Mae’r sefyllfa yma’n siomedig iawn ac yn rhywbeth nad ydi rhywun yn ei ddisgwyl y dyddiau yma,” meddai Ifor Gruffydd, Cyfarwyddwr Dysgu Cymraeg Gogledd-Orllewin, sy’n gyfrifol am ddarparu cyrsiau Cymraeg siroedd Gwynedd, Môn a Chonwy.

“Mae’n golygu bod y drefn yn gwahaniaethu yn erbyn sefydliadau sydd eisiau cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg.”

Ymateb

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Hoffai’r Ganolfan gadarnhau bod modd cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg neu yn y ddwy iaith ar gyfer y tendrau hyn.

“Cyhoeddwyd y manylebau a’r atodiadau yn ddwyieithog.

“Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn ceisiadau ar gyfer cyflawni ein cynlluniau newydd.”