Mae mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) yn dweud bod y BBC wedi ei gam-ddehongli mewn eitem newyddion ar y ffrae dros statws ieithyddol ysgol gynradd yng ngorllewin Cymru.

Yn ôl RhAG, dylai’r BBC ymddiheuro iddyn nhw am yr eitem ar raglen Newyddion 9 neithiwr ar S4C a’r stori ar wefan BBC Cymru Fyw.

Ond mae’r BBC wedi dweud wrth golwg360 nad oes unrhyw sail i’r cwyno.

Mae’r stori dan sylw yn trafod yr ymgyrch yn erbyn newid ysgol gynradd Llangennech, ger Llanelli, o fod yn ysgol ddwy ffrwd, Cymraeg a Saesneg, i fod yn un cyfrwng Cymraeg.

Mae RhAG yn anhapus â dehongliad y BBC o gyfweliad â Michael Jones o’r mudiad, oedd yn cyfeirio at rieni sy’n erbyn troi’r ysgol yn un Gymraeg trwy ddweud: “Os nad ydyn nhw’n hoffi’r Gymraeg, ga’ i awgrymu, mae ffin fan ‘co ac allen nhw groesi’r ffin”.

Yn eu stori, mae’r BBC yn dehongli fod Michael Jones wedi dweud ‘y dylai rhieni sydd ddim am i’w plant gael eu haddysgu yn yr iaith “groesi’r ffin i Loegr”.’

Wrth siarad â golwg360, dywedodd swyddog ymchwil RhAG, Heini Gruffudd, fod hynny’n “gamddehongliad difrifol”.

“Roedd e wedi dweud y farn, os nad yw pobol eisiau clywed y Gymraeg, well iddyn nhw beidio byw yma,” meddai.

“Mae hwnna’n hollol wahanol i’r hyn roedd y BBC wedi dweud, sef bod ni eisiau i bawb sydd ddim eisiau addysg Gymraeg i symud o ‘ma.

“Diar mi, mae hwnna’n gamddehongliad difrifol.”

Mewn datganiad, dywedodd y mudiad: “Mae’r eitem yn honni bod RhAG am i bobl sy’ ddim am gael addysg Gymraeg symud dros y ffin.  Nid yw RhAG erioed wedi dweud hyn, a fyddai RhAG byth yn arddel y fath syniad.

“Mae RhAG am i bawb sydd yng Nghymru allu dewis addysg Gymraeg, y model gorau o ddatblygu sgiliau llawn yn y Gymraeg a’r Saesneg.”

Ymateb BBC Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru:

“Nid ydym yn derbyn honiad mudiad RhAG bod geiriau Michael Jones wedi eu camddehongli.  Mewn cyfweliad ar y penderfyniad i newid Ysgol Llangennech o ysgol ddwy ffrwd i ffrwd cyfrwng Cymraeg, fe ofynodd ein gohebydd: ‘Beth yw’ch neges i bobol sy’n feirniadol o’r penderfyniad yma?’ Ar dâp, fe ymatebodd Michael Jones drwy ddweud: ‘Os nad yw nhw’n lico’r Gymraeg, ga i awgrymu fod y ffin draw fan co a gallan nhw groesi’r ffin. Os yw nhw ddim mo’yn bod mewn gwlad ble mae’r Gymraeg yn cael ei siarad, wel cer rywle arall’.”

Rhiant ddim yn barod i fynd dros y ffin

Wrth gael ei holi gan golwg360 a fyddai hi’n barod i symud i Loegr er mwyn sicrhau addysg Saesneg i’w phlant, dywedodd Michaela Beddows, un sy’n ymgyrchu yn erbyn y newid yn Llangennech: “Na, dim o gwbl.”

“Dw i’n ddynes sy’n teimlo’n angerddol dros Gymru. Dim ond am fy mod i ddim yn siarad Cymraeg, dyw hynny ddim yn fy ngwneud i’n llai o Gymraes,” meddai.

“Dw i ddim yn wrth-Gymraeg o gwbl, a dyna’r ffordd dw i’n cael fy mhortreadu, am fy mod yn brwydro yn erbyn newid.

“Ry’n ni’n brwydro i gadw dwy iaith yn ein hysgol leol achos byddwn i’n hoffi i fy mab ddysgu Cymraeg.”

Ychwanegodd nad yw sicrhau bod ei phlant yn rhugl yn y Gymraeg yn “fater mor bwysig â hynny” iddi.