Mae arolwg barnwrol ar y gweill ar ôl i’r Conradh na Gaeilge (Cynghrair y Wyddeleg) gyhuddo pwyllgor gwaith llywodraeth Gogledd Iwerddon o fethu â mabwysiadu strategaeth iaith Wyddeleg.

Roedd cyflwyno’r strategaeth yn rhan o Gytundeb St Andrew yn 2006 a rhaglen lywodraeth y pwyllgor gwaith rhwng 2011 a 2015.

Cafodd Conradh na Gaeilge yr hawl i gael adolygiad barnwrol fis Mai’r llynedd, ar y sail bod y llywodraeth wedi methu â gweithredu yn ôl Cytundeb Gogledd Iwerddon 1998.

Mae disgyblion mewn ysgolion Gwyddeleg, a’r mudiad ymgyrch An Dream Dearg, yn cefnogi’r alwad am strategaeth iaith newydd.

‘Aros dros 10 mlynedd’

Yn ôl llywydd Conradh na Gaeilge, Cóilín Ó Cearbhaill, mae’r gynghrair wedi bod yn aros dros 10 mlynedd am strategaeth iaith newydd.

Mewn datganiad, dywedodd: “Roedd Conradh na Gaeilge wedi ymgysylltu mewn modd gweithredol â’r Adran Diwylliant, y Celfyddydau a Hamdden pan oedd ymgynghoriad ar y strategaeth, fel y gwnaeth eraill o fewn y gymuned iaith Wyddeleg.

“Ry’n ni wedi bod yn aros dros 10 mlynedd i hon gael ei chyflwyno, ac mae cryn dipyn o rwystredigaeth o fewn ein cymuned ynghylch methiant y pwyllgor gwaith i symud hon yn ei blaen.

“Ry’n ni’n sôn am fesurau syml yn ymwneud â phlant, y Wyddeleg yn y cartref, pa mor weladwy yw’r iaith; pethau a fydd yn gwneud gwahaniaeth amlwg i nifer cynyddol y bobol sy’n byw eu bywydau drwy gyfrwng y Wyddeleg.

“Rhaid i’r llysoedd ymateb pan nad yw’r pwyllgor gwaith yn gwneud.”

‘Datblygu a diogelu’

Dywedodd y llefarydd ar ran mudiad An Dream Dearg, Ciarán Mac Giolla Bhéin eu bod yn croesawu penderfyniad y llys i gynnal adolygiad barnwrol.

“Ni all Stormont anwybyddu dyletswydd gyfreithiol allweddol a gafodd ei chyflwyno fel rhan o gytundeb rhyngwladol sy’n rhan o’r broses heddwch ac a oedd yn rhan ganolog o Raglen Lywodraeth y pwyllgor gwaith ei hun rhwng 2011 a 2015.

“Mae’n arbennig o bwysig fod strategaeth er mwyn datblygu a diogelu datblygiad yr iaith wrth i’r gymuned o siaradwyr Gwyddeleg barhau i dyfu a galw am hawliau.

“Ni all Stormont anwybyddu’r gymuned iaith Wyddeleg rhagor – mae’n bryd deddfu.”