Llun: Dyfodol i’r Iaith
Mae angen system i sgorio gwasanaethau Cymraeg busnesau ar draws Cymru, yn ôl un mudiad iaith.

Mae Dyfodol i’r Iaith am weld Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu un o’u syniadau o annog caffis, siopau, tafarndai a chanolfannau i arddangos arwyddion yn nodi bod y Gymraeg yn cael eu harfer ganddyn nhw.

Mae’n debyg mai system wirfoddol fyddai hon, ac fe fyddai’n ymdebygu at systemau sydd eisoes yn cael eu gweithredu, fel safonau glendid bwyd, neu ganllawiau cwrw da CAMRA.

Miliwn o siaradwyr Cymraeg

Yn ôl Dyfodol i’r Iaith, “os yw’r Llywodraeth am greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif, rhaid annog mwy o bobol i’w defnyddio, a hynny mewn cymaint o wahanol sefyllfaoedd anffurfiol ag sydd bosib.”

Ychwanegodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “byddai system o arwyddion o’r fath yn gyfle i fusnesau arddangos yn glir bod y Gymraeg yn rhan o’u hethos gofal cwsmer.

“Byddai hefyd yn gymhelliant i roi sylw dyledus i’r Gymraeg o fewn y gweithle, ac i werthfawrogi ac annog sgiliau ieithyddol staff,” meddai wedyn.

Ceiniogau’r Cardi

Mae ymgyrch debyg yn cael ei chynnal yng Ngheredigion dan yr hashnod #CeiniogeCardi sy’n annog pobol i roi adborth ar gyfryngau cymdeithasol i wasanaethau Cymraeg o fewn y sir.

Mae golwg360 ar ddeall y bydd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies, yn cwrdd â Dyfodol i’r Iaith yr wythnos nesaf i drafod syniadau hyrwyddo a chryfhau defnydd o’r iaith.