Cyngor Sir Gâr
Mae cynghorydd o gyngor Sir Gâr wedi galw ar Brif Weinidog Cymru i herio penderfyniad grŵp Llafur y cyngor ynglŷn â’u penderfyniad i wrthwynebu cyflwyno system addysg Gymraeg yn ysgol Llangennech, Llanelli.

Daeth galwad y Cynghorydd Gareth Jones o Blaid Cymru wrth i Fwrdd Gweithredol y Cyngor gyfarfod heddiw.

Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth cynghorwyr Sir Gâr bleidleisio dros newid ysgol gynradd Llangennech o fod yn ysgol ddwy ffrwd i fod yn ysgol Gymraeg yn unig, pwnc oedd wedi codi tipyn o ymateb yn lleol.

Ond yn y bleidlais, fe wnaeth pob aelod o’r grŵp Llafur, heblaw am dri ohonyn nhw, wrthwynebu’r cynllun.

Yn ôl y cynghorydd Gareth Jones mae hyn yn mynd yn erbyn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ynghyd â strategaeth iaith y Cyngor gafodd ei gymeradwyo gan y weinyddiaeth gynt, dan arweiniad Llafur.

“Bydd yn anodd iawn i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 os fydd cynghorwyr Llafur yn parhau i rwystro strategaeth eu plaid eu hunain,” meddai Gareth Jones.

“Am y rheswm hynny, rwy’n galw ar Carwyn Jones i siarad ag arweinydd y grŵp Llafur yn Sir Gaerfyrddin i ofyn am eglurhad.”