Alisa Baker, ger y gofeb i’w chyndeidiau James James ac Evan James, cyfansoddwyr Hen Wlad Fy Nhadau, ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd Llun: Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Mae gor-or-wyres James James, y cerddor o Bontypridd a wnaeth gyfansoddi y dôn ar gyfer yr anthem genedlaethol, Hen Wlad Fy Nhadau,  wedi sôn am fwynhad dysgu Cymraeg fel oedolyn.

Er bod Alisa Baker, a gafodd ei geni yng Nghaerdydd ac a fynychodd ysgolion cyfrwng Saesneg yn y Rhondda, yn cofio ychydig o Gymraeg ers ei chyfnod yn yr ysgol, a bod ei mam-gu wedi siarad Cymraeg â hi pan oedd yn iau, dywedodd ei bod eisiau dysgu’r iaith yn iawn fel teyrnged i’w chyndeidiau enwog.

Mae hi’n dilyn cwrs Cymraeg i Oedolion yng Ngholeg Llwynypia, sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol De Cymru ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

“Mae fy nghyndeidiau wedi chwarae rhan flaenllaw yn fy mhenderfyniad i fynd ati i ddysgu Cymraeg,” esboniodd.

‘Rhodd’

“Fy mamgu ar ochr fy nhad yw wyres a gor-wyres James James ac Evan James, a aeth ati i ysgrifennu’r anthem genedlaethol. Fe’i hysgrifennwyd ganddynt ar gyfer pobl Cymru, a rhoddwyd hi i’r bobl yn rhodd. Mae dysgu Cymraeg yn fy helpu i ymgysylltu â’r gwreiddiau teuluol yna.

“Yr oedd Cymraeg yn cael ei siarad ar ochr fy mam hefyd, a bellach dw i’n byw yn hen gartref fy hen hen fam-gu a thad-cu yn Nhonyrefail. Mae’n deimlad da pan dw i’n siarad Cymraeg yn y cartref, gan mai Cymraeg oedd yr unig iaith a gâi ei siarad yno ar un adeg.”

Mae Alisa Baker, sy’n fam i dri o blant, yn gobeithio gweithio fel cynorthwywraig nyrsio, ac mae’n credu y bydd y Gymraeg o ddefnydd iddi yn ei gyrfa newydd.

Ei chyngor i bobol sydd am ddysgu’r iaith yw i “fynd amdani” gan nodi ei fod yn “lot o hwyl, ac yn gyfle i gyfarfod â ffrindiau newydd, hyfryd.”

‘Arbennig’

Meddai Efa Gruffudd Jones, prif weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sy’n gyfrifol am gyrsiau Cymraeg i Oedolion ar draws Cymru:

“Yr ydym yn gwybod fod gan bobl nifer o resymau da dros fynd ati i ddysgu’r Gymraeg, boed hynny i gefnogi plant mewn addysg Gymraeg neu i ehangu dewisiadau gyrfa. Mae hwn yn rhywbeth arbennig, er hynny – dysgu Cymraeg gan fod eich cyndeidiau wedi cyfansoddi’r anthem genedlaethol.”