Mae adroddiad Seneddol yn awgrymu y dylai mewnfudwyr ddysgu Saesneg cyn dod i wledydd Prydain neu fynd i ddosbarthiadau gorfodol pan maen nhw’n yn cyrraedd.

Fe fydd yr adroddiad ar integreiddio cymdeithasol yn cael ei gyhoeddi heddiw ddydd Iau gan y Grŵp Seneddol Trawsbleidiol ac fe fydd yn ymdrin â’r cwestiwn o sut i hwyluso integreiddio.

Dywed yr adroddiad bod medru’r Saesneg “yn allweddol er mwyn medru cymryd rhan yn ein cymdeithas” a’i fod yn “rhagofyniad ar gyfer ymwneud â’r rhan fwyaf o bobol Brydeinig mewn ffordd ystyrlon”.

Fe ddaw wedi adolygiad fis diwetha’ gan Louise Casey, oedd yn honni bod Prydain wedi dod yn fwy rhanedig wrth ddod yn fwy amlddiwylliannol, ac oedd yn awgrymu y dylai mewnfudwyr dyngu “llw integreiddio”.

Awgrym arall gan y Grŵp yw bod Prydain yn mabwysiadu sustem debyg i’r un sydd yng Nghanada lle mae gan y taleithiau bwerau dros fewnfudo.

Mae mewnfudo net i’r Deyrnas Unedig o amgylch tua thraean miliwn, llawer yn uwch nag targed y Llywodraeth sef 100,000.