Does “neb” yn poeni am ddyfodol yr iaith mwyach, meddai’r ymgyrchydd cynta’ i gael ei garcharu dros y Gymraeg, hanner canrif yn ôl.

A dyna pam nad ydi Geraint Jones o Drefor, a gafodd ei garcharu ar 28 Ebrill 1966, ddim yn obeithiol o gwbwl ynghylch dyfodol yr iaith, a hynny am nad oes “dim arwydd” o obaith.

“Does yna neb yn malio dim, dim pobol ifanc, y genhedlaeth ifanc… malio dim,” meddai Geraint Jones wrth golwg360. “Does neb yn codi llais yn unman bron.

“Maen nhw’n fodlon cael eu llyncu gan y diwylliant byd-eang, Saesneg yma, cael eu llyncu gan hwnna ac wedyn dyna hynny…

“Mae egwyddorion ac argyhoeddiad yn bethau sydd wedi prinhau yn arw iawn, iawn ymysg ein pobol ni.

“Mae’n ddigon hawdd dweud, ‘rhaid i ni fod yn obeithiol’, ond gobeithiol am be’? Be’ ‘di’r arwyddion sydd yna i fod yn obeithiol? Does yna ddim mae gen i ofn.”

“Deuoliaeth ryfedd” i’r Cymry

“Hawdd iawn ydi gweiddi hir oes i’r iaith Gymraeg a Chymru am byth… mae’n hawdd gweiddi hwrê dros dîm pêl droed Cymru ond eto yn y bôn, arwynebol ydi hwnna hefyd,” meddai Geraint Jones.

“Dyma’r union bobol sydd wedi pleidleisio dros Brexit ac yn y blaen, yr union bobol a bleidleisiodd yn erbyn cael Cynulliad yng Nghaerdydd.

“Mae yna ryw ddeuoliaeth ryfeddol, neu ryfedd ddylwn i ddweud, ac anffodus iawn, yn perthyn i’n cenedl ni, i’n pobol ni.”

Mae Geraint Jones i’w glywed yn rhannu ei bryderon yn y clip sain hwn: