Ty'r Cyffredin Llun: PA
Mae adroddiad newydd wedi dweud nad oes “rhwystr technegol” pam na ddylai’r Uwch-bwyllgor Cymreig gynnal eu trafodaethau yn Gymraeg wrth gwrdd yn San Steffan yn y dyfodol.

Mae’r 40 o Aelodau Seneddol Cymru yn rhan o’r Uwch-bwyllgor Cymreig sy’n trafod materion yn ymwneud â Chymru.

Ar hyn o bryd, mae ganddynt yr hawl i drafod yn Gymraeg wrth gwrdd yng Nghymru yn unig, ond dim ond chwe gwaith ers 1996 mae hynny wedi digwydd.

‘Dim rhwystrau technegol’

Mae adroddiad gan Bwyllgor Adolygu Gweithdrefn Senedd y Deyrnas Unedig yn awgrymu y dylai Tŷ’r Cyffredin benderfynu a ddylai’r Gymraeg gael ei defnyddio wrth i’r Uwch-bwyllgor Cymreig gwrdd yn San Steffan hefyd.

Mae’r adroddiad yn nodi: “tra bod y Pwyllgor yn cynnal yn gryf yr egwyddor mai Saesneg yw iaith  Tŷ’r Cyffredin, mae’n casglu nad oes rhwystrau technegol i wneud trefniadau ar gyfer defnydd o’r Gymraeg yng nghyfarfodydd Uwch-bwyllgor Cymreig yn San Steffan, a bod y costau ychwanegol tebygol o drefnu’r defnydd o’r Gymraeg yng nghyfarfod yr Uwch-bwyllgor yn llai na’r costau o gynnal cyfarfod y pwyllgor yng Nghymru.”

Daeth y cynnig i sylw’r pwyllgor yn dilyn cais gan Aelod Seneddol De Clwyd, Susan Elan Jones, ac fe allai gael ei benderfynu ar gynnig sy’n dod i law gan Bwyllgor Busnes y meinciau cefn.