Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg
Mae grŵp o siaradwyr iaith leiafrifol yng Nghanada, yn teithio i Gymru i ddysgu sut mae’r iaith Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a sut mae’r iaith yn ffynnu fel iaith fyw.

Bydd y 17 aelod o Bwyllgor Iaith Inuit Tapiriit Kanatami yn teithio ledled Cymru o heddiw tan ddydd Gwener i gwrdd â grwpiau sydd yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg gan gynnwys Prifysgol Bangor, Cyngor Llyfrau Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chyd-Bwyllgor Addysg Cymru.

Fe fydd yr awdur, Alys Conran yn mynd gyda’r grŵp i ddogfennu eu hamser yng Nghymru a bydd y ddirprwyaeth yn cwrdd â’r Prif Weinidog Carwyn Jones, Comisiynydd y Gymraeg a Tywysog Cymru.

Mae oddeutu 60 o ieithoedd brodorol yng Nghanada, a phob un ohonyn nhw’n dirywio, a’r gobaith yw bydd y daith yn medru cynorthwyo eu hymgyrch i arbed yr ieithoedd yma.