Mae dyn aeth ati i ddysgu Cymraeg yn ei ugeiniau yn dweud bod yr iaith wedi dod â manteision mawr iddo yn ei waith fel perchennog cwmni digidol.

Mae Steve Dimmick a sefydlodd cwmni ‘doopoll’, yn dod yn wreiddiol o Flaenau Gwent, ond mae bellach yn byw yn Nhreganna, Caerdydd.

Mae’n rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru i gael mwy o bobol i ddysgu’r Gymraeg, wrth i’r Llywodraeth geisio cyrraedd ei nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Ar ôl cwrdd ag Elin (sy’n wreiddiol o Ddyffryn Nantlle) yn Llundain, fe aeth Steve Dimmick ati i ddysgu Cymraeg mewn dosbarthiadau nos yn y brifddinas. Mae’r ddau bellach yn wr a gwraig.

Dechrau dysgu

Dechreuodd ddysgu yn 2001 ac ar ôl mynd ar gwrs wythnos yng Nghanolfan Nant Gwrtheyrn yn 2004, penderfynodd ei fod yn ddigon hyderus i siarad Cymraeg heb ragor o wersi.

“Roeddwn i a’m gwraig yn awyddus iawn i fagu’r plant yn ddwyieithog o’r cychwyn cyntaf. Mae dwyieithrwydd yn sgil defnyddiol iawn, ac mae’n hynod berthnasol i’r busnes hefyd,” meddai.

“Pan aethom ati i greu cysyniad doopoll, ein bwriad oedd datblygu meddalwedd fyd-eang ac amlieithog. Fe wnaethom gyfieithu’r feddalwedd i’r Gymraeg yn gyntaf gan fod y cwmni wedi’i leoli yng Nghaerdydd ac roedd yn ymddangos yn gam cyntaf naturiol.”

‘Dim cyfle i ddysgu fy iaith fy hun’

Wedi’i fagu ym Mlaenau Gwent, chafodd Steve Dimmick ddim cyfle i ddysgu Cymraeg yn yr ysgol, a doedd neb yn siarad yr iaith ar yr aelwyd chwaith.

“Does dim amheuaeth bod yr iaith Gymraeg wedi newid fy mywyd yn enfawr. Wrth edrych yn ôl, mae’n anodd credu fy mod i’n methu siarad Cymraeg o’r blaen. Fe ges i radd ‘A’ mewn Ffrangeg ac Almaeneg yn yr ysgol, ond wnes i ddim cael cyfle i ddysgu fy iaith fy hun nes fy mod yn oedolyn, ac mae’n rhan o fywyd bob dydd i mi nawr.”

Dywed hefyd fod y cyflwynydd teledu, Gareth Roberts, o’r Clwb Rygbi a Cariad@Iaith wedi bod yn “amyneddgar iawn” gydag e wrth iddo ymarfer ei Gymraeg ar ôl i’r ddau gwrdd yng Nghaerdydd.

“Ers hynny rwyf wedi defnyddio sawl dull gwahanol er mwyn ymarfer siarad Cymraeg. Un o’r dulliau mwyaf defnyddiol yw’r wefan Saysomethingin.com, sy’n cynnig podlediadau 20 munud o hyd i helpu pobl i ddysgu ieithoedd. Roeddwn i’n arfer gwrando arnyn nhw yn y car, wrth deithio yn y bws i’r gwaith, ac wrth fynd â’r ci am dro.”

Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig rhagor o wybodaeth am ddysgu Cymraeg ar ei gwefan, ar Facebook neu Twitter.