Fe fydd cynllun ar ei newydd wedd yn cael ei lansio heddiw i fynd ati i daclo’r cynnydd mewn clefyd y siwgr yng Nghymru.

Nod cynllun Cyflawni Cymru gan Lywodraeth Cymru yw atal y cynnydd yn nifer yr achosion o glefyd siwgr a lleihau’r perygl i’r claf ddatblygu cymhlethdodau difrifol, fel clefyd y galon, strôc neu golli troed neu goes.

Mae’r cynllun hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd dod o hyd i achosion yn gynnar a rhoi triniaeth yn brydlon, yn arbennig i blant a phobl ifanc.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: “Mae’r nifer cynyddol o unigolion sy’n datblygu clefyd y siwgr math 2, a’r cyfnod o amser y gall unigolyn fyw gyda’r cyflwr, yn siŵr o roi mwy o bwysau ar ein gwasanaeth iechyd yn y dyfodol.”

Ymateb i’r her

Yn ôl Vaughan Gething mae’r cynllun ar ei newydd wedd am ymateb i’r her: “Mae’r cynllun cyflawni ar ei newydd wedd a gyhoeddwyd heddiw yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau clefyd siwgr. Mae hefyd yn egluro sut y bydd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn ymateb i’r her honno. Bydd llwyddiant y cynllun yn dibynnu ar gydweithio agos rhwng pawb sy’n gyfrifol am ofal clefyd siwgr a bydd rhaid grymuso unigolion sydd â diabetes i reoli eu cyflwr eu hunain hyd eithaf eu gallu.”

“Rydyn ni wedi gweld gwelliannau mawr dros y tair blynedd diwethaf a bydd y cynllun hwn sydd wedi’i ddiweddaru yn datblygu ar hynny ac yn cefnogi gwelliannau i’r gwasanaeth hyd at 2020.”