Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu llythyr at Adran Ddiwylliant Llywodraeth Prydain yn galw arnyn nhw i weithredu addewid i ddiogelu cyllideb S4C ar drothwy Datganiad yr Hydref.

Mae’r mudiad iaith yn disgwyl i’r Canghellor, Philip Hammond, gyhoeddi cynnydd yng nghyllideb S4C ddydd Mercher yn sgil addewid y Blaid Geidwadol yn ei maniffesto yn etholiad cyffredinol 2015 y byddai’r blaid yn “diogelu arian ac annibyniaeth olygyddol S4C” yn ystod tymor pum mlynedd y Senedd hon.

‘Ymrwymiadau clir

Mewn llythyr at Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth Prydain, Karen Bradley, dywedodd Carl Morris, ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ei fod yn gobeithio y bydd yn “anrhydeddu’r ymrwymiadau clir a wnaed gan y Llywodraeth ynghylch S4C dros y blynyddoedd diwethaf i ddiogelu cyllideb y darlledwr.

Ychwanegodd: “Gwyddom yn ogystal y byddwch yn ymwybodol o’r penderfyniad a wnaed gan eich rhagflaenydd yn sgil pwyso cyhoeddus i ddiogelu cyllideb S4C cyn i adolygiad y sianel gael ei gwblhau…

“Yn wir, yng ngoleuni’r addewidion clir hyn gan eich Llywodraeth, disgwyliwn i chi ddiogelu cyllideb S4C drwy gynyddu eich grant ar ei chyfer yn ôl chwyddiant ar gyfer y flwyddyn nesaf. Bydd modd i adolygiad y sianel wedyn ystyried y posibiliad o gynnydd pellach yn y gyllideb. 

Mae Carl Morris hefyd yn gobeithio fod ehangu y twf mewn gwasanaethau darlledu mewn ieithoedd eraill yn golygu y bydd twf cyfatebol yn y gwasanaethau darlledu cyhoeddus sydd ar gael yn Gymraeg.

Sicrwydd ariannol

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dadlau fod angen sicrwydd ariannol tymor hir ynghyd â datganoli’r arian i Gymru, fel yr eglurodd Carl Morris: “Ymysg pethau eraill, dadleuwn fod angen fformiwla ariannol statudol sy’n cynnig gwir sicrwydd ariannol i’r sianel yn ogystal â phenderfyniad i ddatganoli’r arian a chyfrifoldeb dros ddarlledu i Gymru fel na fydd angen i ni, fel mudiad gwirfoddol, atgoffa Llywodraeth Prydain yn flynyddol o’i dyletswyddau a’i hymrwymiadau i’r unig sianel deledu Cymraeg ei hiaith.”