Mae gwefan newydd wedi’i lansio heddiw sy’n ceisio mynd i’r afael â’r diffyg cymorth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i helpu pobol sy’n dioddef o gyflyrau iechyd meddwl.

Bydd meddwl.org yn cynnwys gwybodaeth ar faterion iechyd meddwl yn Gymraeg, lle i gael cymorth yn Gymraeg a fforwm drafod i bobol sgwrsio a rhannu profiadau a chyngor.

Yn ôl sylfaenwyr y wefan, does dim digon o gymorth i siaradwyr Cymraeg sy’n dioddef o gyflyrau iechyd meddwl a’r bwriad yw rhoi’r hyn sydd ar gael i gyd gyda’i gilydd mewn un man hwylus.

“Mae ychydig o ddeunydd Cymraeg ar gael ar hyn o bryd, ond mae’n anodd dod o hyd iddo. Bwriad y wefan felly yw dod â’r holl wybodaeth sydd ar gael yn Gymraeg ynghyd i un lle,” meddai Hedd Gwynfor, un o’r sylfaenwyr.

“Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth ar y wefan yn bethau a oedd ar gael eisoes mewn llefydd gwahanol ar-lein, ond mae peth gwybodaeth newydd gan elusennau nad oedd ar-lein o’r blaen.

“Mae’r wefan hefyd yn cynnwys adran ‘Myfyrdodau’, sydd yn gyfle i bobl rannu eu profiadau yn Gymraeg a fydd gobeithio o ddefnydd i eraill.”

Y gobaith yw sicrhau bod elusennau a mudiadau iechyd meddwl yn darparu mwy o ddeunydd iechyd meddwl yn y Gymraeg.

“Nid yw enwau Cymraeg llawer o’r cyflyrau yn gyffredin hyd yn oed felly rydyn ni’n gobeithio bydd y wefan yn ffordd o fynd i’r afael â’r broblem hon,” meddai Hedd Gwynfor.

“Mae’n bwysig bod dioddefwyr yn cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yn yr iaith sydd fwyaf cyfforddus iddynt.”