Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi ildio tros ddwy o’r Safonau Iaith i Lywodraeth Cymru – cam y mae mudiad sy’n ymgyrchu tros ddyfodol yr iaith yn ei ddisgrifio fel “cam mawr yn ôl”.

Mae’r newid yn golygu nad oes yn rhaid i bob dogfen gan Lywodraeth Cymru gael ei chyflwyno yn nwy iaith Cymru – Saesneg a Chymraeg – ac nad oes gorfodaeth ar y Llywodraeth i wneud pob cyhoeddiad sain yn Gymraeg yn gynta’.

Fe gafodd y Safonau Iaith eu llunio gan weision sifil Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod sefydliadau yng Nghymru yn ystyried yr effaith ar y Gymraeg, ac maen nhw wedi bod yn weithredol er  diwedd 2015. Comisiynydd y Gymraeg oedd yn penderfynu pa rai oedd yn berthnasol i gyrff penodol.

Y newidiadau

– Yn dilyn her gan y Llywodraeth, mae cymal wedi’i ychwanegu i Safon 40 sy’n dweud nad oes rhaid i sefydliadau ddarparu ‘cynhyrchion ystadegau sy’n ddarostyngedig i God Ymarfer Ystadegau Swyddogol’ nac ‘adroddiadau arolygu gwasanaethau gofal cofrestredig Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru’ at ddefnydd y cyhoedd yn Gymraeg.

– Yn Safon 144, mae’r Comisiynydd wedi ychwanegu cymal sy’n dweud nad oes rhaid i gyhoeddiad sain mewn argyfwng gael ei wneud yn Gymraeg yn gynta’.

Ymateb y Comisiynydd, Meri Huws

Mewn ymateb i gais gan golwg360, dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg: “O’r 164 Safon a osodwyd gan y Comisiynydd, fe benderfynodd y Llywodraeth herio dwy ohonynt yn unol â’r broses sydd wedi ei gosod allan yn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

“Yn sgil derbyn tystiolaeth gan y Llywodraeth fel rhan o’r her, cyflwynodd y Comisiynydd ddyfarniad iddynt barhau i gydymffurfio â’r safonau mewn amgylchiadau penodol.”

Ymateb Cymdeithas yr Iaith 

Mae hyn yn “gam mawr yn ôl”, meddai Cadeirydd grŵp hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Mae’n annerbyniol bod Comisiynydd y Gymraeg wedi ildio i heriau’r Llywodraeth i gydymffurfio â’r Safonau, rheoliadau a luniwyd gan y Llywodraeth ei hun,” meddai Manon Elin.

“Rydym yn gynyddol bryderus ynghylch parodrwydd y Comisiynydd i gyfaddawdu gyda chyrff ar draul hawliau gweithwyr, y cyhoedd a llesiant y Gymraeg yn gyffredinol. Bellach bydd rhaid i unigolion bori drwy ddogfen gymhleth o ganlyniad i’w phenderfyniad.

“Mae hyn yn gam mawr yn ôl, ac yn un enghraifft ymysg nifer cynyddol o heriau lle mae’r Comisiynydd wedi ildio i fuddiannau biwrocratiaid a chyrff yn lle defnyddwyr y Gymraeg. Ni ddylai hi fod wedi plygu i bwysau gan y Llywodraeth sydd, ar ddiwedd y dydd, yn ei hariannu.”