Alun Davies
Bydd diwrnod i ddathlu gwaith mentrau iaith Cymru dydd Iau nesaf, wrth iddyn nhw ddathlu chwarter canrif o fodolaeth.

Bydd Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies, yn ymuno yn y dathliadau yn Aberystwyth, ac mae disgwyl iddo roi clod i’r mentrau am eu gwaith dros y chwarter ganrif ddiwethaf.

Bydd y digwyddiad dros ginio yn adeilad Medrus ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn dechrau am un o’r gloch.

Mae 26 o fentrau iaith lleol i’w cael ledled Cymru, gyda’r rhan fwyaf yn y de. Eu gwaith yn bennaf yw hyrwyddo a hybu’r Gymraeg drwy gynnal digwyddiadau gwahanol yn yr ardal leol.