Yr Hen Lyfrgell yn yr Ais, Caerdydd (Llun parth cyhoeddus)
Mae wedi dod i’r amlwg bod canolfan Gymraeg newydd Caerdydd yn wynebu trafferthion ariannol ac wedi gofyn i’r cyngor lleol am gymorth gyda thaliadau rhent.

Mae Canolfan yr Hen Lyfrgell yng nghanol y ddinas yn rhan o un o brif bolisïau iaith y Llywodraeth – yn un o rwydwaith a grewyd  pan oedd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn gyfrifol am y portffolio.

Roedd yn rhan o fuddsoddiad o £1.25 miliwn dan strategaeth Bwrw Mlaen y Llywodraeth – mae’r canolfannau i fod i arwain at “syniadau ac egni newydd”.

Gofyn am gymorth

Yn ôl y BBC, fe ysgrifennodd aelodau’r pwyllgor sy’n rhedeg y ganolfan at Gyngor Dinas Caerdydd i ofyn am ostyngiad o £100,000 yn eu rhent blynyddol, yn dilyn penderfyniad dau denant i roi’r gorau i fod yn rhan o’r prosiect.

Cafodd yr Hen Lyfrgell, sy’n cael ei rhedeg gan elusen Menter Iaith Caerdydd, £400,000 gan Lywodraeth Cymru i adnewyddu’r adeilad cyn ei agor ym mis Chwefror – ar y sail y byddai’n hunangynhaliol yn y pen draw.

Ond mae’n “ormod i ddisgwyl” i brosiect newydd greu incwm digonol i dalu £100,000 y flwyddyn mewn rhent, yn ôl cadeirydd y pwyllgor, Huw Onllwyn, wrth siarad gyda Radio Cymru.

‘Gofyn mawr’

“Ydan ni’n elusen go fach… ac roedd sefydlu’r ganolfan wastad yn mynd i fod yn ofyn mawr,” meddai Huw Onllwyn, wrth raglen y Post Cyntaf y bore ‘ma.

“Mae’n amlwg erbyn hyn ei bod hi’n ormod i ddisgwyl i brosiect newydd fel hwn greu digon o arian i dalu £100,000 mewn rhent.”

Partneriaid yn gadael

Yn wreiddiol, roedd y ganolfan yn gartref i nifer o fusnesau gwahanol gan gynnwys caffi bar, gofod i’w rhentu ar gyfer cynadleddau a digwyddiadau, swyddfeydd, siop a meithrinfa.

Ond erbyn hyn mae rheolwyr y caffi, Clwb Ifor Bach, wedi rhoi’r gorau iddi ac mae’r Mudiad Meithrin hefyd wedi cau’r feithrinfa.

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Caerdydd am ei ymateb.