Geordan Burress (Sgrinlun o YouTube)
Mae dysgwraig sy’n byw yn Cleveland, Ohio, yn poeni y gallai ethol Donald Trump arwain at fwy o hiliaeth at bobol groenddu yn America.

Wrth i’r byd ymateb i ethol y Gweriniaethwr yn olynydd i Barack Obama yn y Tŷ Gwyn, mae Geordan Burress yn sôn wrth golwg360 am deimladau “siomedig, isel a thrist” ar ôl clywed canlyniad yr etholiad.

Mae Geordan Burress yn dysgu Cymraeg ac yn gobeithio teithio i Gymru y flwyddyn nesa’ ar gyfer cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Efallai mai’r siom fwya’ oedd gweld ei thalaith hi ei hun yn dod allan o blaid Donald Trump.

“Mae Ohio, dw i’n meddwl, wastad wedi bod yn Republican neu’n conservative, felly doedd e ddim yn sioc fod Trump wedi ennill Ohio,” meddai yn Gymraeg. “Dw i’n meddwl bod lot o bobol yn hapus (gyda’r canlyniad), ond mae lot o bobol yn siomedig hefyd.”

Perygl hiliaeth

A hithau’n ddynes groenddu, mae Geordan Burress yn poeni y gallai’r canlyniad arwain at ragor o hiliaeth yn yr Unol Daleithiau.

“Dw i’n credu y bydd hi’n haws i Trump gan fod pawb ar yr un dudalen yn y Tŷ Gwyn y tro hwn. Y tro diwetha’, pan oedd Barack Obama yn trio gwneud rhywbeth, roedd e’n cael ei wrthod. Ond nawr, dw i ddim yn meddwl y bydd hynny’n digwydd yn y dyfodol.

“Mae’r byd yn meddwl bod Donald Trump yn beryglus, ond yn America, mae lot fawr o bobol wedi pleidleisio iddo fe, felly dw i ddim yn siŵr be’ sy’n mynd i ddigwydd nawr.

“Dw i’n poeni am hiliaeth, achos mae e wastad wedi bod yma,” meddai Geordan Burress. “Bydd pethau fel hate crimes yn fwy cyffredin, dw i’n meddwl, a dw i’n poeni am Brexit achos hynny hefyd.”