Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu Llywodraeth Cymru yn hallt am beidio buddsoddi digon mewn cynyrchiadau ffilm yn y Gymraeg.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi canfod fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £40,000 yn unig mewn ffilmiau Cymraeg ers 2011 tra’n gwario £7 miliwn ar ffilmiau Saesneg, sy’n gyfystyr ag ychydig dan 1% o’r cyfanswm.

Yn 2014, sefydlwyd cyllideb ‘Buddsoddi yn y Cyfryngau’ gwerth £30 miliwn dros gyfnod o bum mlynedd gan Weinidogion Cymru.

Mewn ymateb i gais Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, meddai’r Llywodraeth mai dim ond 0.57% o arian sydd wedi ei fuddsoddi mewn ffilmiau Cymraeg, “Yn 2013/14, darparwyd £ 40,000 i gefnogi ffilmiau cyfrwng Cymraeg a £ 452,009 ar gyfer ffilmiau cyfrwng Saesneg. Yn 2014/15, darparwyd £ 3,852,784 ar gyfer ffilmiau cyfrwng Saesneg ac yn 2015/16 darparwyd £ 2,704,516 i gefnogi ffilmiau cyfrwng Saesneg.”

Mewn llythyr at y Gweinidog sy’n gyfrifol am y gronfa, Ken Skates, dywedodd Carl Morris, cadeirydd grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, “Mae’n fater o gryn siomedigaeth bod ein Llywodraeth ni, sy’n rhannol gyfrifol am hybu’r Gymraeg, yn gallu ffafrio’r Saesneg i’r fath raddau, yn enwedig gan ystyried y dalent a gallu i greu ffilmiau Cymraeg o’r safon uchaf yn y Gymraeg.”

Yn ôl Carl Morris, “Mae buddsoddiad o £7 miliwn dros 3 blynedd yn y Saesneg yn sylweddol iawn, ac mae’r £40,000 yn wir yn slap yn y wyneb i’r rheini sydd eisiau cynhyrchu ffilmiau yn Gymraeg, y diwydiant ffilm a theledu Cymraeg a chefnogwyr y Gymraeg yn fwy cyffredinol. Ni ellid tanamcangyfrif pwysigrwydd y cyfrwng ffilm fel ffordd o hybu diwylliannau, yn enwedig diwylliannau lleiafrifedig fel rhai cyfrwng Cymraeg.

Unioni’r sefyllfa

Mae Carl Morris yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid y sefyllfa, “Gofynnwn ni i chi ddatgan nad ydych chi’n fodlon â’r ffigurau hyn ac eich bod yn mynd i gymryd camau er mwyn unioni’r sefyllfa yma dros y blynyddoedd nesaf.  Awgrymwn eich bod yn clustnodi o leiaf 50% o’r gyllideb “Buddsoddi yn y Cyfryngau”, fel rhan o gynllun ar wahân, ar gyfer prosiectau Cymraeg eu hiaith.”

Mae Carl Morris hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn prosiectau i fuddsoddi yn y Gymraeg,  “Dim ond un enghraifft ymhlith nifer o’r anffafriaeth i’r Gymraeg o fewn cyllidebau prif-ffrwd y Llywodraeth yw hon, a galwn arnoch chi i ystyried eich holl gyllideb a chymryd camau pendant i fuddsoddi mwy ym mhrosiectau sy’n cael effaith positif ar y Gymraeg.”

‘Cefnogaeth sylweddol’

Ond mae  llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi wfftio honiadau Cymdeithas yr Iaith.

“Mae’r datganiad i’r wasg gan Gymdeithas yr Iaith yn ystyried cyllid ar gyfer ffilmiau yn unig, ac nid yw’n cydnabod y gefnogaeth sylweddol a roddir gan Lywodraeth Cymru i brosiectau Iaith Gymraeg sy’n cael eu darlledu drwy gyfryngau eraill megis teledu a llwyfannau ar-lein.”

Ychwanegodd: “Mae cefnogaeth neu fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ar gael ar gyfer prosiectau ffilm a theledu yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae ein cefnogaeth yn dibynnu ar nifer o feini prawf yn cael eu bodloni, gan gynnwys yr angen i ddangos marchnad ryngwladol, o leiaf 50% o’r saethu yn cael ei wneud yng Nghymru a chryfder y budd economaidd tebygol i Gymru.

“Ar y sail honno, yr ydym wedi cefnogi cynyrchiadau llwyddiannus yn rhyngwladol fel Y Syrcas, Dan Y Wenallt a tri thymor Y Gwyll ac rydym yn parhau i gefnogi cyfryngau sain a gweledol Cymraeg o’r radd flaenaf trwy ein cwmnïau cynhenid megis Boom Cymru.”