Bydd drama dditectif S4C yn cael ei ddefnyddio i ddysgu Cymraeg i oedolion yn dilyn cytundeb newydd rhwng y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ac S4C.

Fel rhan o’r bartneriaeth, bydd dysgwyr Cymraeg sydd wedi cyrraedd Lefel Uwch yn derbyn gwers sy’n defnyddio clipiau o drydedd cyfres Y Gwyll sydd ar S4C bob nos Sul.

Pwrpas y wers yw ysbrydoli dysgwyr i drafod, dysgu geirfa newydd a mwynhau’r gyfres dditectif ar yr un pryd. Mae’n cynnwys clipiau sain a fideo, ymarferion a nodiadau ar gyfer tiwtoriaid.

Cyfarwyddwr Strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg luniodd y wers.

“Nod y wers yw cyflwyno rhywbeth cyffrous a chyfoes i’r dysgwyr yn y dosbarthiadau,” meddai Helen Prosser.

“Rydym yn cydweithio’n agos gydag S4C, ac yn edrych ymlaen yn fawr at ddatblygu’r bartneriaeth ac arddangos y cyfoeth o adnoddau a rhaglenni sydd ar gael ar y Sianel.  Mae’n adnodd amhrisiadwy i rai sy’n dysgu’r Gymraeg.

Dywedodd Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Plant a Dysgwyr S4C: “Mae S4C yn falch o gydweithio’n agos gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, gan roi cyfle i ddysgwyr Cymraeg gael mynediad i raglen ddeinamig a chyffrous.  Mae ein gwasanaeth i ddysgwyr, Dal Ati, yn adnodd pwysig iawn gan S4C ar gyfer dysgwyr sydd eisoes wedi meistroli ychydig o Gymraeg, ac rydym ni’n hynod o falch o gefnogi’r adnoddau mae’r Ganolfan yn eu datblygu.”