Mae gŵyl y Mòd wedi agor yn Stornoway ar ynys Lewis yn yr Alban gyda galwad am statws Unesco i gadarnleoedd’r iaith Aeleg.

Pwysodd John Macleod, llywydd An Communn Gàidhealach, trefnwyr y Mòd, ar arweinwyr gwleidyddol yr Alban i geisio statws rhyngwladol i warchod “etifeddiaeth ddiwylliannol fyw” yr ynysoedd.

Mae An Communn Gàidhealach yn dathlu 125 mlwyddiant yn y Mòd eleni, cymdeithas a gafodd ei sefydlu yn sgil pryder am ddyfodol yr iaith Aeleg, pan oedd 254,000 yn gallu ei siarad. Roedd y nifer hwnnw i lawr i 57,000 yng nghyfrifiad 2011.

“Mae amser yn fyr,” meddai John Macleod yn ei araith agoriadol.

“Dylai Ynysoedd y Gorllewin gael eu cefnogi’n benodol fel ardal gwarchod a datblygu iaith.

“Dyw hyn ddim yn golygu mai dyma’r unig ardal lle bydd yr Aeleg yn goroesi.

“Bydd yr Aeleg yn byw mewn rhannau eraill o’r Alban lle mae’r niferoedd yn dal i gynyddu, ond os bydd yr amgylchedd arbennig sy’n dal i fod yn ynysoedd y gorllewin yn dal i gael ei golli, bydd calon yr iaith yn cael ei cholli.”

Traddodiadau

Dywedodd fod bron i 400 o draddodiadau diwylliannol ledled y byd wedi cael eu rhestru gan Unesco ers 2008 fel rhai sy’n haeddu cefnogaeth i’w cynnal, ond nad oes dim un o’r rhain yn y Deyrnas Unedig.

“Dw i’n credu bod ein hetifeddiaeth Gaeleg yn yr Alban, ac yn ynysoedd y Gorllewin yn enwedig, yn haeddu cael eu cydnabod fel y traddodiadau eraill,” meddai.

“Byddai effaith dynodiad Unesco yn golygu ymrwymiad i warchod a hyrwydd traddodiad Gaeleg ynysoedd y Gorllewin.”