Enghraifft o'r iaith Scots (Anarion CCA3.0)
Mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi nifer o gamre i gefnogi’r iaith Scots.
Fe fydd hynny’n cynnwys rhoi mwy o le iddi mewn ysgolion a chael y corff addysg, Education Scotland, i osod arwyddion tairieithog – mewn Saesneg, Scots a Gaeleg.
Fe gyhoeddon nhw Bolisi Iaith ddoe sy’n egluro sut y byddan nhw’n cefnogi’r iaith yn y dyfodol.
Yn ôl pennaeth Education Scotland, Jane Renton, mae hon “yn funud arwyddocaol i’r iaith Scots”.
“Mae’n iaith fodern, fyw,” meddai, “a degau o filoedd o blant yn dod â hi i’r ysgol bob dydd.”
Cefnogi’r iaith
Mae Llywodraeth yr Alban yn gwario £270,000 y flwyddyn ar gefnogi’r iaith, sy’n cael ei hystyried yn llaer mwy na thafodiaith Saesneg.
Yr enghreifftiau enwoca’ ohoni yw barddoniaeth Robbie Burns ac, yn ôl y Llywodraeth, mae miliwn a hanner o bobol yn dweud eu bod yn siarad Scots.
Yn ôl Gweinidog Ieithoedd yr Alban, Alasdair Allan, mae’r Llywodraeth yn falch o dair iaith y wlad.
Ond, yn ôl papur y Scotsman, roedd yr aelod Toriaidd o Senedd yr Alban, Alex Johnstone, wedi galw’r syniad yn “gimic” a bod mwy o angen dysgu ieithoedd tramor yn ysgolion yr Alban.