Enda Kenny
Mae Prif Weinidog Iwerddon, y Taoiseach Enda Kenny, wedi cael ei feirniadu’n llym gan ymgyrchwyr iaith a’r gwrthbleidiau am benodi dyn sy’n methu siarad yr iaith yn weinidog tros y bröydd Gwyddeleg.
Dywedodd y Taoiseach wrth gwmni teledu RTÉ ei fod wedi penodi Joe McHugh yn benna’ oherwydd ei bod yn bwysig y dylai ei sir, Donegal, gael ei chynrychioli yn y llywodraeth.
Aeth ymlaen i nodi bod Joe McHugh hefyd wedi “bod o gwmpas am gyfnod hir.”
‘Diffyg parch’
Mae sawl aelod blaenllaw o senedd y Dail wedi beirniadu’r penodiad a’r sylwadau – gan gynnwys un o ragflaenwyr Joe McHugh.
Roedd penodi rhywun nad oedd yn medru trafod yn y Wyddeleg yn dangos “diffyg parch” at y swydd, yn ôl Éamon Ó Cuív, y gweinidog tros y Gaeltacht rhwng 2002 a 2010.
Mae Joe McHugh wedi cofrestru ar gwrs Gwyddeleg i ddechreuwyr yn Donegal.