Brodor o Aberystwyth, Trystan Morris Dafydd, sy’n trafod defnydd Starbucks o’r Gymraeg yng nghaffi newydd y cwmni yn Aberystwyth – a’r Gymraeg mewn busnesau yn ehangach.

Mae Starbucks wedi bod yn cael tipyn o sylw negyddol yn y wasg ac ymhlith y cyhoedd yn ddiweddar am beidio â thalu digon o dreth gorfforaethol.  O ystyried goblygiadau trefniadau o’r fath i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a ledled y DU, mae’n anodd peidio â chytuno â’r feirniadaeth yma o’r cwmni.

Ond yn fwy diweddar, mae’r cwmni Americanaidd wedi cael rhagor o sylw negyddol wedi iddyn nhw agor cangen yn Aberystwyth â Chymraeg gwallus ar arwyddion y waliau.  Yn eu sylwadau i’r wasg,  gwnaeth Cymdeithas yr Iaith benderfyniad craff i beidio ag ymateb yn negyddol i rywbeth y gellid ei gywiro’n hawdd.  Wedi’r cwbl, “gwell Cymraeg slac na Saesneg slic”!

A dyma beth sy’n anffodus am y trychineb cyfieithu hwn, ei fod wedi bwrw rhywbeth llawer pwysicach i’r cysgod – mai’r Gymraeg sy’n cael y lle blaenaf ar arwyddion eu caffi newydd yn Aberystwyth. Y Gymraeg sydd gyntaf, a thua dwywaith maint y Saesneg.  Er gwaethaf ein teimladau am faterion megis cwmnïau mawr yn osgoi trethi, mae angen canmol Starbucks am wneud hyn.

Mor gyfarwydd ydyn ni yng Nghymru â’r “Croeso” a’r “Diolch am siopa” tocenistaidd ei fod yn anodd credu’ch llygaid i weld y Gymraeg yn cael ei defnyddio ar gyfer rhywbeth gweithredol, go iawn, mewn siop gadwyn o’r fath.  Yn wir, gyda rhai eithriadau, mae hyn yn well ymdrech na’r rhan fwyaf o fusnesau’r dref sy’n eiddo i Gymry Cymraeg!

Staff yn siarad Cymraeg?

Mae rhai cwestiynau’n parhau, fodd bynnag.  A fydd Starbucks yn cyflwyno’r polisi newydd hwn i’w canghennau eraill yng Nghymru?  I ba raddau bydd hi’n bosibl cael gwasanaeth cyfrwng Cymraeg gan staff y caffi?

A’r ail bwynt hwn yw’r anoddaf, yn bennaf gan fod cadwyni fel Starbucks, yn Aberystwyth o leiaf, yn dueddol o ddibynnu ar fyfyrwyr a gweithwyr achlysurol a daw’r rhan fwyaf o’r myfyrwyr hyn o du hwnt i Gymru.  Gallai Starbucks, wrth gwrs, fabwysiadu polisi o gyflogi siaradwyr Cymraeg yn unig.  Ond dydy ennill y frwydr honno ym mhob siop gadwyn yn y dref a’r wlad ddim yn realistig, a byddai’r cyhuddiadau o osod pobl ddi-Gymraeg dan anfantais yn dechrau.

Ond a oes yn rhaid i rywun fod yn siaradwr Cymraeg rhugl i allu cynnig gwasanaeth Cymraeg yn rhywle fel Starbucks?  Oni ellid hyfforddi’r staff nad ydynt yn medru’r Gymraeg i allu cyfrif i 100 ac i ddweud a deall ymadroddion cyffredin megis “ydych chi eisiau llaeth?” a “ble mae’r tŷ bach?”.  Yna gallai’r staff nad ydynt yn rhugl ond sydd wedi derbyn yr hyfforddiant hwn gael bathodyn tebyg i’r un oren adnabyddus, er mwyn i ni wybod bod angen siarad yn glir ac ychydig yn arafach â nhw.

Er mai rhoi gwasanaeth Cymraeg a normaleiddio’r iaith yn y sector preifat fyddai’r prif nod, byddai hyn hefyd yn rhoi profiad cadarnhaol i’r staff di-Gymraeg o ddefnyddio’r iaith yn y gymuned, ac yn rhoi teimlad o gyrhaeddiad iddyn nhw.

Mae taer angen rhywbeth yng Nghymru i chwalu’r categorïau anhyblyg ‘siaradwyr Cymraeg’, ‘pobl di-Gymraeg’ a ‘dysgwyr brwdfrydig’ sydd ohoni.  Yn fy marn i, pe bai’n ymarferol o safbwynt cyllid, y ffordd orau o wneud hyn fyddai datblygu cynllun canolog a chanddo safonau clir, adnoddau hyfforddi a nod ardystio neu sgôr y gallai cwmnïau fel Starbucks a Tesco, ynghyd â busnesau lleol, weithio tuag ato.

Fel y soniwyd yn ddiweddar, rheswm arall efallai dros sefydlu corff ychwanegol, newydd i hyrwyddo’r iaith?