Craig ab Iago
Mae Cyngor Gwynedd wedi penodi cynghorydd sir o Lanllyfni yn Bencampwr Iaith.

Nid yw Craig ab Iago yn hollol siŵr o be’n union yw ei rôl newydd eto, meddai, ond mae’n bwriadu hybu a hysbysebu’r pethau positif am yr iaith Gymraeg, yn hytrach na thynnu sylw at y pethau negyddol.

Ac mae’n credu fod y defnydd o’r Gymraeg o fewn cymunedau mor bwysig heddiw ag y bu hi erioed.

‘Y Gymraeg yn ganolog’

Roedd Craig ab Iago yn rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych 2013, ac ar ôl byw gyda’i deulu yn Llanllyfni am saith mlynedd mae bellach yn siaradwr Cymraeg rhugl.

Yn siarad am ei swydd newydd, dywedodd Craig ab Iago:

“Mae yna gymaint o sôn am bethau negyddol, ond mae hi’n amser i gysylltu’r Gymraeg hefo pethau sydd werth eu clywed. Dw i eisiau i’r Gymraeg barhau’n ganolog i’r gwaith rydym yn ei wneud fel awdurdod lleol.

“Yn ychwanegol, mae defnydd o’r Gymraeg o fewn cymunedau, cyrraedd at wasanaethau ac annog siaradwyr a dysgwyr Cymraeg i ddefnyddio’i sgiliau yn ddyddiol, mor bwysig heddiw ag y bu hi erioed.”