(Map o wefan Comisiynydd y Gymraeg)
Wrth edrych ar ffigurau’r Cyfrifiad fesul ardal, Huw Prys Jones yn tynnu sylw at bwysigrwydd allweddol y gogledd-orllewin i ddyfodol y Gymraeg

Pan gafodd canlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2011 ar y Gymraeg eu cyhoeddi fesul sir ddiwedd y llynedd, y dirywiad yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion a gipiodd y prif benawdau.

Dros yr wythnosau diwethaf fodd bynnag, mae’r ffigurau fesul cymuned a ward yn rhoi inni ddarlun mwy cyflawn o sefyllfa’r iaith mewn gwahanol rannau o Gymru.

Er hynny, mae angen cymryd gofal rhag edrych yn rhy arwynebol ar y ffigurau hyn, gan fod llawer o’r unedau’n rhy fach ynddynt eu hunain i allu dod i unrhyw dueddiadau pendant yn eu cylch.

Cyn y gallwn ddangos unrhyw dueddiadau neu batrwm ieithyddol, mae angen gosod y cymunedau hyn yng nghyd-destun eu hardaloedd lleol, fel dalgylchoedd trefi, er enghraifft, sy’n ffurfio unedau naturiol o boblogaeth yn hytrach na llinellau ar fap. Mae ardaloedd ychydig ehangach fel hyn yn debycach hefyd o fod yn adlewyrchiad cywirach bellach o’r cylchoedd y mae pobl yn troi ynddynt yn hytrach na’u milltir sgwâr yn unig.

Mae’r map uchod o wefan Comisiynydd y Gymraeg lle mae’r cymunedau gyda dros 70% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg mewn gwyrdd tywyll yn awgrymu clytwaith tameidiog. Ond rhan o’r rheswm dros hyn yw y gall dyrnaid o blwyfi eang o ran arwynebedd ond tenau eu poblogaeth roi argraff anghywir o natur ieithyddol ardal yn ei chyfanrwydd.

O ddadansoddi’r canlyniadau fesul trefi a’u dalgylchoedd, mae’r cadarnleoedd cryfaf i gyd yn amlygu’u hunain yn gliriach fel un cnewyllyn yn y gogledd-orllewin. Mae’r ardaloedd hyn yn cynnwys Llangefni a’r pentrefi o’i gwmpas a Llanfairpwll ym Mon, ac ardaloedd Bethesda, Caernarfon, Pwllheli, Porthmadog, Blaenau Ffestiniog a’r Bala yng Ngwynedd, ac yn ymestyn rywfaint hefyd i rai rhannau gwledig o sir Conwy.

O osod poblogaeth yr ardaloedd uchod efo’i gilydd, mae’n ffurfio darn o dir sy’n ymestyn yn ddi-dor o Lanerchymedd yn y gogledd i Uwchaled a Phenllyn yn y dwyrain sy’n cynnwys Gogledd Meirionnydd, Llŷn ac Eifionydd a’r cyfan o Arfon heblaw am Fangor lle mae dros 75% yn siarad Cymraeg allan o gyfanswm poblogaeth o tua 100,000. Mae’n wir fod rhai pocedi o bentrefi llai Cymraeg o’i mewn, ond dydi’r rhai ddim digon i effeitho’n arwyddocaol ar y ganran gyffredinol.

Er bod y gyfradd hon o 75% wedi gostwng fymryn o 77% yn 2001, mae niferoedd y siaradwyr Cymraeg wedi dal eu tir yma, er bod hyn i’w briodoli’n bennaf i gynnydd yn rhai o’r ardaloedd o gwmpas Caernarfon, a hynny o bosibl ar draul ardaloedd eraill mwy gwledig.

Mae’r graddau y mae’r Gymraeg wedi llwyddo i ddal ei thir yn yr ardaloedd hyn dros y ddegawd ddiwethaf yn haeddu o leiaf gymaint o sylw â’r cwymp yn siroedd y de-orllewin.

Yr ardal graidd

Mae’r daearyddwyr Harold Carter a John Aitchison eisoes wedi cyfeirio yn y gorffennol at ganol Môn, Llŷn ac Arfon a Meirionnydd Nant Conwy fel is-rannau o ardal graidd y Gymraeg. Yr hyn sy’n gwbl amlwg erbyn hyn ydi mai’r ardaloedd hyn ydi’r cyfan o’r craidd bellach. Nid oes unrhyw gymuned y tu allan i’r ardal graidd gyda chanran sy’n agos atynt bellach.

Ardal Arfon, sef tref Caernarfon a hen bentrefi’r chwareli o’i chwmpas yw rhan gryfaf yr ardal graidd. Mae dros 80% yn siarad Cymraeg yng Nghaernarfon ac yn Llanrug, Bontnewydd a Llanwnda, sef y pentref agosaf ati. O roi’r cyfan o Arfon heblaw Bangor at y gilydd, mae 77% yn siarad Cymraeg, nad yw ond 1% yn is na 10 mlynedd ynghynt, a lle mae’r niferoedd wedi codi dros 400. (Mae rheswm dilys dros eithrio Bangor o’r ffigurau – gan fod cynnydd mawr yn niferoedd y myfyrwyr yn rhoi darlun camarweiniol o’r ddinas, a hefyd mae ei maint yn golygu y byddai’n effeithio’n ormodol ar ffigurau gweddill yr ardal.)

Mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi cynyddu fymryn hefyd yng nghanolbarth Môn (sef Llangefni a’r pentrefi o’i gwmpas a Llanfairpwll), er bod y ganran wedi gostwng o 78% yn 2001 i ychydig o dan 75% yn 2011.

Mae’r ganran sy’n siarad Cymraeg yn Llŷn ac Eifionydd (sef trefi Pwllheli a Phorthmadog a’r holl ardaloedd o’u cwmpas) fymryn yn is ar 71.3%, o gymharu â 72.7% ddeng mlynedd ynghynt, gyda gostyngiad o ychydig dros 200 yn y niferoedd yn ogystal. Yr ardal a welodd y gostyngiad mwyaf difrifol yma oedd Porthmadog, lle disgynnodd y ganran o 75% yn 2001 i 69.8% yn 2011; a gostyngiad o dros 200 yn y niferoedd hefyd.

Y rhan arall o’r brif ardal graidd yw gogledd Meirionnydd, sef Penrhyndeudraeth, Ffestiniog, y Bala a Phenllyn, lle mae 75.7% yn siarad Cymraeg, i lawr o 78.4% yn 2001, a lle bu cwymp o ychydig dros 100 yn y niferoedd. Mae’n werth nodi dyma lle mae dwy gymuned Gymreiciaf y Gymru wledig – sef Llanuwchllyn a Llanycil (ardal y Parc) – lle mae dros 80% yn dal i siarad Cymraeg.

Ardaloedd o gwmpas y craidd

Mae’r prif ardaloedd craidd hyn wedi’u hamgylchynu ag ardaloedd eraill lle nad yw’r Gymraeg mor gryf, ond eto lle mae mwyafrif yn siarad yr iaith yn y rhan fwyaf ohonynt.

Ar arfordir Môn roedd y canrannau sy’n siarad Cymraeg yn amrywio o dros 65% mewn pentrefi gwledig fel Aberffraw, Llanfachraeth, Llanfaethlu a Llanidan (Brynsiencyn) i lai na’r hanner yn y trefi a phentefi glan-môr mwy Seisnig fel Biwmares (39%), Llanfaelog (Rhosneigr) (44%) a Llanfair Mathafarn Eithaf (Benllech) (46.5%). Eto i gyd, roedd y cyfanswm sy’n siarad Cymraeg yn holl gymunedau arfordir yr ynys wedi codi bron i 200, sy’n cyfrif am 54% o’u poblogaeth ar gyfartaledd.

Draw ar ynys Cybi, fodd bynnag, gwelwyd cwymp o dros 600 yn nifer y siaradwyr Cymraeg, gyda’r ganran sy’n siarad Cymraeg yn nhref Caergybi’n cwympo o 47% i 42%. Mae tref Caergybi’n dilyn patrwm tebycach i’r hyn a welwyd yn rhai o’r hen ardaloedd diwydiannol, lle mae cyfran uwch o bobl dros 65 nag sydd o blant yn siarad Cymraeg.

O symud draw i’r dwyrain, mae tua 57% yn siarad yr iaith yn ardal wledig sir Conwy (sef dyffryn Conwy a’r pentrefi i’r dwyrain), o gymharu â tua 61% yn 2001, gyda chwymp o bron i 200 yn y niferoedd. Bu’r cwymp mwyaf yn Betws y Coed – o 58% i 46% – ond mae’n annoeth symud i ormod o gasgliadau mewn ardaloedd o boblogaethau bach.

Ffin ddwyreiniol yr ardaloedd lle mae cyfran sylweddol yn siarad Cymraeg yn y gogledd yw Dyffryn Clwyd, lle disgynnodd y ganran o 41% i 37.5% yn 2011, ond lle cafwyd cwymp pur sylweddol o bron i 700 mewn niferoedd.

Ymhellach i’r dwyrain, ardal a arferai gael ei hystyried yn ynys o Gymreictod yn ardal Wrecsam oedd Rhosllannerchrugog, ond du iawn yw’r darlun yma bellach. Hon oedd yr ardal a welodd y colledion mwyaf difrifol drwy Gymru yn y 10 mlynedd ddiwethaf. Rhwng 2001 a 2011 collodd bron i chwarter – 670 – o’i siaradwyr Cymraeg. Bellach, allan o’i 2210 o siaradwyr Cymraeg, mae 655 ohonynt dros eu 65 oed.

O symud yn ôl i Feirionnydd, mae’r ardaloedd yn Seisnigo wrth symud tua’r de, yn enwedig ar yr arfordir, lle mae’r ganran yn gostwng o 51% yn Harlech i 30% yn Aberdyfi. O gymryd yr arfordir gyda’i gilydd does dim dirywiad anferth wedi bod yn y ganran ers 2001 (o tua 44% i 41%), ond mae bron i 300 yn llai o ran niferoedd sy’n siarad Cymraeg.

Yn yr ardaloedd o gwmpas Dolgellau ac i lawr am ddyffryn Dyfi, mae cyfran uwch o dipyn (tua 59%) yn siarad Cymraeg, ond mae’n dangos dirywiad tipyn mwy gan fod bron i 65% yn siarad yr iaith yr un ardaloedd 10 mlynedd ynghynt. Yma hefyd cafwyd bron i 300 o gwymp yn y niferoedd.

Y siroedd deheuol

Gyda llai na hanner y boblogaeth yn siarad Cymraeg yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin am y tro cyntaf, nid yw’n ddim rhyfedd bod y gostyngiadau yma’n fwy na’r hyn ydynt yn y gogledd.

Mae’n werth nodi fodd bynnag fod tref Aberystwyth a’i myfyrwyr yn effeithio’n anghymesur ar ystadegau Ceredigion, lawn cymaint ag yn achos Bangor yn Arfon.

O adael tref Aberystwyth a Llanbadarn allan o’r cyfrif, mae mwyafrif bach (52%) yn dal i siarad Cymraeg yng Ngheredigion. Mae hyn fodd bynnag yn cymharu â 56% yn 2001, ac yn fwy difrifol, mae’r cyfanswm dros 3,000 yn llai na’r hyn oedd 10 mlynedd ynghynt. Collodd Ceredigion bron i un o bob deg o’i siaradwyr Cymraeg yn negawd cyntaf y ganrif hon.

Un nodwedd drawiadol arall yng Ngheredigion yw heblaw am Aberystwyth fel y nodwyd eisoes, a chymunedau’r Faenor a’r Borth ar ei chyrion, yw nad oes cymaint â hynny o amrywiaeth yng nghanrannau gwahanol gymunedau. Tregaron gyda bron i 67% yw’r ardal Gymreiciaf, a bychan iawn fu’r dirywiad o gymharu â 2001, ac mae’r ganran dros 60% mewn pedair cymuned arall – Ystrad Fflur, Llanfihangel Ystrad (ardal Felinfach), Llanwnnen a’r Ferwig. Mae’r mwyafrif llethol o gymunedau eraill â chanrannau rhwng tua 45% a 55%, heb gymaint â hynny o amrywiaeth chwaith rhwng y trefi a’r pentrefi cefn gwlad.

Afon Teifi sy’n ffurfio rhan helaeth o’r ffin rhwng Ceredigion a Sir Gaerfyrddin a rhyngddi a Sir Benfro yn y de, ac o edrych ar sefyllfa’r dyffryn yn ei gyfanrwydd ar draws y tair sir, mae tua 55% yn siarad Cymraeg o gymharu â 60% 10 mlynedd ynghynt, a cholled o dros 2000 o siaradwyr.

Mae dirywiad tebyg i’w weld yn nyffyn Tywi i’r dwyrain, ond sydd wedi Seisnigo tipyn mwy, lle mae’r ganran i lawr o 55% yn 2001 i 50% yn 2001. Petai tref Caerfyrddin yn cael ei chynnwys yn y ffigurau fe fyddent yn sylweddol is, gan nad oes ond 37.5% yn siarad yr iaith yn y dref bellach.

Daw hyn â ni i ddwyrain y sir ac i’r hen ardaloedd diwydiannol lle gwelwyd rhai o’r colledion mwyaf trwy Gymru. Un peth sy’n gyffredin rhwng yr holl ardaloedd hyn, ac sy’n argoeli’n wael i’r dyfodol, yw mai ymhlith y bobl dros 65 oed y mae’r canrannau uchaf sy’n siarad yr iaith.

Yr ardal o gwmpas Rhydaman yw’r Gymreiciaf ac yma o hyd y ceir rhai o’r canrannau uchaf yn Sir Gaerfyrddin. O edrych ar y dref a’r pentrefi diwydiannol o’i chwmpas (gan gynnwys cymunedau Cwmllynfell, Gwauncaegurwen a Mawr yn siroedd Castell Nedd Port Talbot ac Abertawe) mae 57.1% yn siarad Cymraeg o gymharu â 65.7% yn 2001. Cafwyd cwymp o dros 2,000 yn y niferoedd hefyd.

Mae’r Gymraeg yn llawer gwanach yn ardal Llanelli (sef tref Llanelli, plwyf Llanelli Wledig, Porth Tywyn, Cydweli, Llangennech a Trimsaran), lle nad oes bellach ond 31% yn siarad yr iaith o gymharu â 37% yn 2001. Collwyd dros 2,000 o siaradwyr gan gynnwys bron i 1,000 yn nhref Llanelli ei hun. Ni ddylid ystyried hyn yn gymaint â hynny o syndod, gan fod y Gymraeg wedi bod ar drai yn yr ardal yma ers degawdau lawer – does dim mwyafrif o bobl sy’n siarad yr iaith wedi bod yn nhref Llanelli ers 1961.

Yr ardal arall sy’n rhaid ei chrybwyll yma yw Cwm Tawe, sydd mewn tair sir wahanol, ond sydd â’i bentrefi’n dangos patrwm digon tebyg. Mae’r ganran yma i lawr o 38.7% yn 2001 i 32% yn 2011.  Collodd y cwm 15% o’i siaradwyr Cymraeg – bron i 2,000 – yn ystod y ddegawd.

*   *   *

Rhybudd a her y Cyfrifiad

Mae sawl un o strategaethau Llywodraeth Cymru wedi datgan y nod uchelgeisiol o greu Cymru ddwyieithog. Y cwestiwn sy’n rhaid ei ofyn ydi pa obaith fydd byth o wireddu hyn os mai dirywiad cyson a ddaliwn i’w weld yn yr ardaloedd lle mae trwch o bobl yn ei siarad.

Gallwn i gyd lawenhau yn y newid mewn agweddau at y Gymraeg mewn rhannau hynny o Gymru nad ydynt wedi cael eu crybwyll yn yr erthygl hon – rhywbeth na all unrhyw gyfrifiad ei adlewyrchu. Mae’n ffaith fod ysgolion Cymraeg yn creu siaradwyr Cymraeg mewn ardaloedd lle nad yw’r iaith wedi cael ei siarad ers cenedlaethau os o gwbl. Rhaid dibynnu ar ffigurau’r awdurdodau addysg am fesur cywir o hyn fodd bynnag, gan fod y cyfrifiad yn amlwg yn gor-gyfrif niferoedd y plant sy’n siarad Cymraeg mewn rhannau o’r de-ddwyrain.

Yr hyn sy’n rhaid ei nodi yw nad yw’r math o gynnydd sy’n digwydd mewn rhai ardaloedd o’r de-ddwyrain wedi bod yn ddigon i gael effaith arwyddocaol ar y canrannau sy’n siarad yr iaith ynddynt. Hyd yn oed yn ward Gymreiciaf Caerdydd, lle mae’r cynnydd yn debygol i’w briodoli’n bennaf i fewnfudiad Cymraeg o’r gogledd a’r gorllewin p’run bynnag, mae’r ganran yn dal yn llawer is na’r hyn yw yn yr ardaloedd mwyaf bregus ar ymylon y Gymru Gymraeg.

Hyd yn oed os ydi pobl yn rhwydweithio’n ehangach erbyn hyn, mae’r angen am ardaloedd lle mae disgwyliad naturiol i rywun allu siarad Cymraeg yn bwysicach nag erioed.  Mae hyn yn arbennig o wir o gofio bod ystadegwyr llywodraeth Cymru’n amcangyfrif bod y gyfran o bobl Cymru sy’n siarad Cymraeg yn rhugl yn sylweddol is na’r 19.4% sy’n cael ei awgrymu gan y cyfrifiad. Petai’r 12.8% (sef y ganran sydd wedi cael ei awgrymu) ohonom wedi cael ein gwasgaru’n weddol gyfartal trwy Gymru, lleiafrif digon pitw fydden ni.

Rhaid i gyflwr yr ardaloedd lle mae mwyafrif yn siarad Cymraeg fod yn llinyn mesur cwbl allweddol felly wrth asesu unrhyw lwyddiant polisi neu strategaeth gan y llywodraeth.

Lle mae Sir Gaerfyrddin yn y cwestiwn, anodd gweld pa mor realistig yw gobeithio atal dirywiad pellach yn y tymor byr o leiaf, oherwydd proffil oedran y siaradwyr Cymraeg yn ardaloedd diwydiannol y sir.

Ond siawns y dylai’r graddau y mae’r Gymraeg wedi dal ei thir cystal yn ei phrif ardal graidd yn y gogledd-orllewin fod yn her ac yn ysbrydoliaeth.

Yn ei ddarlith yn 1962 roedd Saunders Lewis yn gallu dweud bod y Gymru Gymraeg yn dal i ffurfio rhan helaeth o ddaear Cymru. Er nad ydi hyn ddim yn agos mor wir, wrth gwrs, bellach, mae rhaniad pendant o hyd rhwng yr ardaloedd lle mae cyfran sylweddol yn siarad Cymraeg a gweddill Cymru. A hanner can mlynedd yn ddiweddarach, dydi’r darn o dir yn y gogledd-orllewin lle mae’r Gymraeg yn dal i deyrnasu ddim yn un cwbl ddisylwedd chwaith.

Boed i gyfrifiad 2011 gael ei weld fel y rhybudd olaf fod angen cynnal a chryfhau’r prif gadarnle yma cyn ei bod hi’n rhy hwyr.

Yn lle derbyn dirywiad fel rhywbeth anochel, beth am osod nod o gynyddu canran y siaradwyr Cymraeg o 75% i dros 80% yn yr ardaloedd craidd ac i 60% dyweder yn yr ardaloedd o’u cwmpas dros y blynyddoedd nesaf. Llwyddo i wneud hynny fyddai’r prawf gwirioneddol fod y Gymraeg wedi ‘troi’r gornel’, a’r cam sicraf y gellid ei gymryd tuag at gynnydd ystyrlon yng ngweddill Cymru hefyd.

Tabl – sefyllfa’r Gymraeg yn rhai o ardaloedd Cymru (gwaith heb ei gwblhau o  wybodaeth a gasglwyd o ffigurau’r cyfrifiad fesul cymuned)

Ardal / rhanbarth Nifer siaradwyr Cymraeg 2011 Canran siaradwyr Cymraeg 2011 Nifer siaradwyr Cymraeg 2001 Canran siaradwyr Cymraeg 2011 Newid yn nifer y siaradwyr Cymraeg 2001-2011 (% mewn cromachau*)
Arfon (ac eithrio Bangor) 32644 77.2 32208 78.5 +436 (1.4%)
Llyn ac Eifionydd 19124 71.3 19350 72.7 -226 (1.2%)
Gogledd Meirionnydd 10201 75.7 10313 78.4 -112 (1.1%)
Arfordir Meirionnydd 4984 41.2 5255 44.2 -271 (5.2%)
De Meirionnydd 4133 59.4 4410 65.0 -277 (6.3%)
Perfeddwlad Môn 12947 74.9 12800 78.7 +147 (1.1%)
Ynys Cybi 5449 41.5 6070 46.4 -621 (10.2%)
Arfordir Môn 19530 54.3 19343 54.7 +187 (1.0%)
Ardal wledig Conwy 8647 57.1 8830 61.1 -183 (3.2%)
Ceredigion (ac eithrio Aberystwyth) 30051 52.0 33068 56.3 -3017 (9.1%)
Rhydaman a’r Cylch 28205 57.1 30311 65.7 -2106 (6.9%)
Llanelli a’r Cylch 20099 30.9 22364 36.8 -2265 (10.1%)
Cwm Tawe 10372 32.0 12210 38.7 -1838 (15.1%)
Dyffryn Clwyd 10371 37.5 11058 40.9 -687 (6.2%)
Rhosllannerchrugog 2210 24.0 2880 31.5 -670 (23.7%)
Bangor 5801 36.4 6202 46.7 -401 (6.4%)
Aberystwyth 3950 30.9 4103 35.9 -153 (3.7%)

Daw’r canrannau wrth gymharu ffigurau niferoedd 2011 a 2001 – ni ddylid eu drysu gyda newidiadau pwynt canran mewn canrannau