Blogiwr technegol Golwg360, Bryn Salisbury, sy’n egluro pan y dyle ni fod yn gofidio am newidiadau i wasanaeth Twitter.

Dydd Gwener, fe gyhoeddodd Twitter newidiadau i’r modd mae datblygwyr annibynnol yn defnyddio eu system.

O hyn ymlaen bydd rhaid i ddatblygwyr sy’n creu apps neu unrhyw wasanaeth wedi ei selio ar Twitter gael caniatâd gan Twitter os yw’r ap yn debygol o gael mwy na 100,000 o ddefnyddwyr.

Bydd rhagor o newidiadau yn golygu bod Twitter yn cael nadu datblygwyr rhag cysylltu eu apps (er enghraifft Instapaper) i Twitter, os ydyn nhw’n gwrthod dilyn y rheolau. Mae hyn yn peri gofid i rai datblygwyr sydd wedi selio ei busnesau ar y gwasanaeth cymdeithasol.

“Dwi ddim yn ddatblygwr… di hyn ddim am effeithio fi!” dwi’n clywed rhai ohonoch yn dweud…wel, dwi ddim yn siŵr.

Ydi, mae’n wir fod Twitter yn rhad ac am ddim, a dylai Twitter allu cael eu talu neu godi arian os yw pobol yn defnyddio ei system. Ond, mae’r broblem llawer mwy llechwraidd na hynny.

Rhwystrau

Mae gan Twitter wrth gwrs eu cleientiaid eu hunain i gysylltu gyda’i gwasanaethau nhw (Twitter, Twitpic a ballu). Mae’n eithaf tebygol nad yw cleientiaid fel rhain am gael eu rhwystro fel y rhai sydd wedi cael eu datblygu gan bobol eraill.

Mae llwyddiant y platfform (yn union fel daeth llwyddiant y We) wedi dod o’r ffaith bod y system yn agored i bawb, a bod unrhyw un ohonom ni yn gallu adeiladu arno. Trwy osod y fath rwystrau i ddatblygwyr, mae Twitter yn dweud “na, da ni ddim eisiau chi”, neu hyd yn oed yn creu sefyllfa lle na fydd pobol yn gallu cystadlu’n deg ar y platfform.

Gyda hyn, bydd dim i rwystro Twitter rhag gweld bod gwasanaeth newydd yn un llwyddiannus, ac yna lansio fersiwn eu hunain a diffodd cysylltiad y datblygwyr gwreiddiol i’r platfform.

Y peryg i ni fel defnyddwyr yw ein bod ni (a’n cynnwys) yn cael ei gloi mewn i’r gwasanaethau ’ma. Da ni’n cael llai a llai o allu i symud ein data mewn ac allan o’r gwasanaethau ’ma, ac mae’r cwmnïau yn adeiladu waliau uwch ac uwch, gan ddefnyddio’r esgus eu bod nhw’n edrych ar ein hôl ni.

Cyfleusterau

Y broblem i raddau ydi’r ffaith nad ydy Twitter, Google a Facebook yn codi ffi arnom ni fel defnyddwyr.

Nid ni yw cwsmeriaid y gwasanaethau ’ma, ni yw’r deunydd maen nhw’n gwerthu. A tra bod hyn yn wir, mae’r gwefannau yma am fod yn atebol i’r rhai sy’n rhoi’r arian iddynt, ac yn mynd i weithio’n galed i beidio â cholli pobl.

A dyma’r broblem…mae Twitter a Google bellach fel un o gyfleusterau’r we, ac mae ’na wrthdaro’n mynd i fod os yw’r cyfleuster hefyd yn gyfrifol am y cynnwys. Bydd y rhain yn rhoi blaenoriaeth i gynnwys sy’n dod â mwy o arian iddynt, heb ystyried os yw’r cynnwys yn werth chweil.

Byddwn ni’n colli’r gallu i ddewis ein cynnwys, a gyda mwy a mwy o’n newyddion yn dod trwy Twitter a Facebook, gan y cwmnïau ’ma ddylanwad mawr ar ein bywydau ni.

Dyna pam bod unrhyw newid sy’n gwneud y platfformau yma’n llai agored yn rhywbeth i ni boeni amdano, a pham ddylai’r cwmni sy’n adeiladu’r lôn ddim cael mynnu pa gar da ‘ni yn cael gyrru arno?

Mae Bryn Salisbury’n gic Cymraeg yn Llundain, sylwebydd technoleg, trydarwr a podledwr. Gallwch ddarllen rhagor o feddyliau Bryn ar ei flog personol.