Mae’r Gemau Olympaidd yn sicr wedi dangos beth mae’r gorau o’r byd chwaraeon yn gallu cyflawni, gyda phencampwyr yn torri llawer o’r recordiau byd yn y pwll nofio, y gampfa ac ar yr afonydd.

Dwi’n sicr yn teimlo’n reit flin fy mod i heb geisio cael rhai o’r tocynnau i wylio’r hyn oedd yn mynd ymlaen.

Ond, yn anffodus, mae’r peth hefyd wedi amlygu llawer o’r pethau gwaethaf hefyd, yn enwedig ar Twitter.

Wythnos diwethaf, ddaru Guy Adams (@guyadams) o’r Independent gael ei wahardd o’r wefan ar ôl iddo gael ei gyhuddo o ledaenu e-bost personol y sawl oedd yn gyfrifol am yr hyn roedd o’n teimlo oedd yn waith sâl y rhwydwaith teledu NBC.

Roedd cyhuddiadau bod Twitter wedi ceisio tawelu Adams oherwydd eu cytundebau ariannol gyda NBC, a bod y platfform (sydd wedi codi stŵr yn y gorffennol am eu hannibyniaeth) nawr yn mynd lawr y llwybr brwnt o sensoriaeth.

Mae Adams nawr yn ôl ar Twitter, a ddaru Twitter gyhoeddi mai camddealltwriaeth oedd y cyfan ar eu blog, ond nid hynny oedd diwedd cysylltiad Twitter gyda’r gwaethaf o’r Gemau Olympaidd.

Ymosod ar Daley

Mae ’na helynt hefyd wedi codi ar ôl i fachgen 17 cael ei arestio mewn cysylltiad â gyrru neges frwnt i’r deifiwr Tom Daley.

Mae’r bachgen wedi ei gyhuddo o yrru neges fygythiol (‘menacing’) yn dweud bod Daley (a oedd wedi methu ennill ei gystadleuaeth) wedi “siomi ei dad” (a fu farw’n ddiweddar).  Mae’r helynt ’ma yn sicr hefyd o ail-gynnau’r ddadl ynglŷn â bod yn anhysbys ar y we, heb sôn am rôl yr heddlu a’r Llywodraeth gyda chyfathrebu.

Ymyrraeth

Mae’r ddwy stori ’ma i mi yn dangos pob ochr i’r ddadl ’ma, sef pwysigrwydd yr ‘hawl i siarad’, ond hefyd yr ‘angen i siarad’.

Fel y gwelwn ni gydag achos Paul Chambers (y twitter joke trial), mae’n gythreulig o hawdd gwneud smonach o bethau hefo Twitter. Y peth ydy, ydan ni eisiau bod mewn sefyllfa lle mae’r heddlu’n ymyrryd â phob sgwrs gas?

Mae’n debygol, petai’r bachgen wedi dweud yr hyn a ddywedodd ar y stryd, y byddai neb yn gwybod, a fysa pethau yn mynd ’mlaen.  Mae’r dechnoleg wedi crebachu’r byd cymaint nes bod unrhyw beth gwirion da ni’n gwneud yn gallu bod ochr arall y byd cyn i ni sylweddoli pa mor wyrion da ni di bod.

Ystyried

Peidiwch camddeall, dwi wedi gweld pa mor frwnt mae’r we yn gallu bod – dwi wedi gweld effaith ar ffrindiau agos dros ben, a does neb yn haeddu’r fath driniaeth. Dwi’n sicr o blaid mynd ar ôl pobl sydd yn wirioneddol gas, neu’n bygwth pobl eraill, ond dwi ddim yn meddwl mai cau lawr a chloi platfform sydd wedi cael y byd i siarad â’i gilydd ydi’r ffordd ’mlaen.

Mae angen, yn fy marn i, ailystyried y syniad o ‘menacing communcation’, a gosod canllawiau clir i’r heddlu a’r CPS (yn yr achos Chambers), wrth sicrhau bod hi’n bosib mynd ar ôl y bobl sydd yn wirioneddol frwnt a chas i eraill (fel yn achos cyflwynwraig Helen Skelton a’r aelod seneddol Louise Mensch). Y perygl o or-ymateb yw ein bod ni’n colli’r hawl i ymateb pan ein bod wir angen siarad.

Yn y diwedd, y peth pwysig ni gyd gofio ydi rheol Wil Wheaton (ie, Wesley Crusher o Star Trek The Next Generation, hefyd o’r Big Bang Theory)… “Don’t be a dick”.